- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gwnaed
30 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
31 Ionawr 2012
Yn dod i rym
28 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 58(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2012.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran yr ardaloedd hynny o Gymru y mae adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd) o Fesur 2010 wedi ei chychwyn mewn perthynas â hwy (2).
2. Mae'r swyddogaethau a nodir yn yr Atodlen wedi eu rhagnodi fel swyddogaethau cymorth i deuluoedd at ddibenion Rhan 3 o Fesur 2010.
3. Mae'r canlynol wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2010(3); a
(b)Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) (Diwygio) 2011(4).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2012
Rheoliad 2
Y Swyddogaeth | Rhychwant |
---|---|
a.2 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (fel y bo'n gymwys drwy weithrediad a.28A o'r Ddeddf honno) (Darparu Gwasanaethau Lles) a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal) | I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau (gan gynnwys cymorth, cwnsela neu gefnogaeth) i blant sydd mewn angen (“in need”) at ddibenion adran 17 o Ddeddf Plant 1989 ac i'w teuluoedd, gan gynnwys cyflawni unrhyw asesiadau at y dibenion hynny. |
a.17 ac Atodlen 2, Rhan 1 o Ddeddf Plant 1989 (Darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill) | |
a.192(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 15 iddi (Awdurdodau Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol) |
Y Swyddogaeth | Rhychwant |
---|---|
a.29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 a'r cyfarwyddiadau a wnaed odani (Trefniadau lles) a.2 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (Darparu Gwasanaethau Lles) a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal) a.6 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Asesiadau: personau â chyfrifoldeb rhiant) a.192(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 15 iddi (Awdurdodau Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol) | I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau (gan gynnwys cymorth, cwnsela neu gefnogaeth) neu gyfleusterau i hybu lles personau dros 18 oed sy'n gymwys i gael gwasanaethau o dan yr adrannau hynny am eu bod yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau, yn ddioddefwyr trais neu gamdriniaeth domestig, yn rhai a chanddynt hanes ymddygiad treisiol neu ymddygiad o gam-drin neu am eu bod yn rhai a chanddynt anhwylder meddwl, ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y gwasanaethau neu'r cyfleusterau hynny. |
Y Swyddogaeth | Rhychwant |
---|---|
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal) a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol) a.1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i hybu'r gwasanaeth iechyd) | I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd i blant, neu â thrin plant, sydd mewn angen at ddibenion a.17 o Ddeddf Plant 1989 ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y cyfryw wasanaethau neu gyfleusterau. |
a.2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Pwerau cyffredinol) | |
a.3(1) (c), (d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Darparu gwasanaethau penodol) | |
a.10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Trefniadau gyda chyrff eraill) | |
a.38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson sy'n cael ei gyflogi yn y gwasanaeth iechyd i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau) |
Y Swyddogaeth | Rhychwant |
---|---|
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal) a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol) a.1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i hybu'r gwasanaeth iechyd) | I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd ar gyfer personau, neu â thrin personau, sy'n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau, neu sy'n ddioddefwyr trais neu gamdriniaeth domestig, sy'n rhai a chanddynt hanes ymddygiad treisiol neu ymddygiad o gam-drin neu'n rhai a chanddynt anhwylder meddwl, ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y cyfryw wasanaethau, cyfleusterau neu driniaeth. |
a.2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Pwerau cyffredinol) | |
a.3(1) (c), (d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Darparu gwasanaethau penodol) | |
a.10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Trefniadau â chyrff eraill) | |
a.38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson sy'n cael ei gyflogi yn y gwasanaeth iechyd i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau) |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi pa rai o swyddogaethau awdurdod lleol a swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol sy'n “swyddogaethau cymorth i deuluoedd” at ddibenion adran 58 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) (“Mesur 2010”). Mae adran 57 o Fesur 2010 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn sefydlu un neu ragor o dimau integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”) yn eu hardal ac yn gwneud yn ofynnol bod Bwrdd Iechyd Lleol yn cymryd rhan yn eu sefydlu. Nid yw'r timau ICiD yn endidau cyfreithiol ar wahân, ond maent yn dwyn yr awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol at ei gilydd i gyflawni rhai swyddogaethau iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn rhoi sylw i faterion teuluoedd y ceir atgyfeirio'u hachosion atynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ardaloedd awdurdodau lleol y mae adran 57 wedi cael ei dwyn i rym mewn perthynas â hwy ac y mae ganddynt ddyletswydd i sefydlu tîm ICiD. Ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu dwyn i rym mae adran 57 mewn grym mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau lleol a ganlyn: Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam, Caerdydd a Bro Morgannwg (gweler Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010 a Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012).
Mae adran 58(2) o Fesur 2010 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ragnodi rhai swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol a rhai swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG fel “swyddogaethau cymorth i deuluoedd”. Rhaid i awdurdod lleol, gyda chydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan, benderfynu pa rai o “swyddogaethau cymorth i deuluoedd” yr awdurdod ei hun a'r Bwrdd Iechyd Lleol i'w dosbarthu i'r tîm ICiD.
Mae is-adrannau (5) i (8) o adran 58 yn nodi'r mathau penodol o achosion y caiff awdurdod lleol eu cyfeirio at dîm ICiD. Mae'r swyddogaethau statudol a nodwyd yn gymwys yn ehangach nag y gallai fod yn ofynnol yn y mathau o achos o dan sylw, ac felly mae'r tablau yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn cynnwys testun sy'n cyfyngu'r ffocws i'r maes perthnasol.
Mae adran 58(12) o Fesur 2010 yn darparu y bydd swyddogaethau sydd wedi eu rhagnodi fel “swyddogaethau cymorth i deuluoedd” ac wedi eu dosbarthu i dîm ICiD yn parhau i gael eu harfer gan yr awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol y tu allan i'r tîm, yn ogystal â chael eu cyflawni o fewn y tîm.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1701) (Cy.162).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynglŷn â chostau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Gyfarwyddiaeth Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2010 mccc 1. Mae adran 71 o Fesur 2010 yn diffinio ystyr “rhagnodi” a “rheoliadau” at ddibenion adran 58(2).
Ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu dwyn i rym mae adran 57 o Fesur 2010 mewn grym mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau lleol a ganlyn: Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam, Caerdydd a Bro Morgannwg.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: