Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) 2012

Darpariaethau Trosiannol

3.—(1Yn yr erthygl hon—

mae i “adeilad” (“building”) yr ystyr a roddir i “building” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2010;

mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 126 o Ddeddf 1984;

mae i “carthffos” yr ystyr a roddir i “sewer” yn adran 219(1) o Ddeddf 1991;

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984(1);

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991(2);

mae i “draen ochrol” yr ystyr a roddir i “lateral drain” yn adran 219(1) o Ddeddf 1991;

mae i “gwaith adeiladu” yr ystyr a roddir i “building work” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2010;

ystyr “hysbysiad adeiladu” (“building notice”) yw hysbysiad a roddir o dan reoliadau 12(2)(a) a 13 o Reoliadau 2010;

ystyr “hysbysiad corff cyhoeddus” (“public body’s notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 54 o Ddeddf 1984;

ystyr “hysbysiad cychwynnol” (“initial notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 47 o Ddeddf 1984;

ystyr “hysbysiad diwygio” (“amendment notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 51A o Ddeddf 1984;

ystyr “planiau llawn” (“full plans”) yw planiau sydd wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol at ddibenion adran 16 o Ddeddf 1984 ac yn unol â rheoliadau 12(2)(b) a 14 o Reoliadau 2010;

ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 2010(3);

ystyr “tystysgrif planiau” (“plans certificate”) yw tystysgrif a roddir o dan adran 50 o Ddeddf 1984.

(2Pan fo carthffos neu ddraen ochrol yn gysylltiedig â gwaith adeiladu—

(a)pan fo hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, tystysgrif planiau, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus wedi ei roi i awdurdod lleol neu pan fo planiau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol, a hynny cyn 1 Hydref 2012; a

(b)pan fo'r gwaith wedi ei ddechrau cyn 1 Hydref 2013,

yna mae adran 106B(4) o Ddeddf 1991 yn gymwys fel pe bai'r cyfeiriad yn adran 106B(4)(a) o Ddeddf 1991 at “standards published by the Minister” a'r cyfeiriad yn adran 106B(4)(b) o Ddeddf 1991 at “those standards” yn gyfeiriadau at yr hysbysiad, y dystysgrif neu'r planiau sy'n berthnasol.

(3Nid yw adran 106B(4) o Ddeddf 1991 yn gymwys i garthffos na draen ochrol sy'n gysylltiedig yn unig ag adeiladau neu estyniadau mewn perthynas â'r gwaith y caniateir ei ddechrau heb y gofyniad o dan Reoliadau 2010 i hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, tystysgrif planiau, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus gael ei roi i awdurdod lleol, neu i blaniau llawn gael eu hadneuo gydag awdurdod lleol.

(4Nid yw erthygl 3(3) yn gymwys ar ôl 1 Hydref 2013 ac eithrio i garthffos neu ddraen ochrol sy'n gysylltiedig ag adeiladau neu estyniadau y mae gwaith wedi dechrau ar eu cyfer cyn y dyddiad hwnnw.