2012 Rhif 2048 (Cy. 239) (C. 81)
Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) 2012
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt—
- a
gan adran 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 20101, a
- b
gan adran 49(3)(e) a (6) o'r Ddeddf honno, i'r graddau y mae adran 42 o'r Ddeddf honno yn ymwneud ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.
Enwi1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) 2012.
Darpariaeth sy'n dod i rym ar 1 Hydref 20122
1
Mae adran 42 o Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn, yn dod i rym ar 1 Hydref 2012 mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.
2
Ond mae erthygl 2(1) yn ddarostyngedig i erthygl 3.
Darpariaethau Trosiannol3
1
Yn yr erthygl hon—
mae i “adeilad” (“building”) yr ystyr a roddir i “building” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2010;
mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 126 o Ddeddf 1984;
mae i “carthffos” yr ystyr a roddir i “sewer” yn adran 219(1) o Ddeddf 1991;
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 19842;
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 19913;
mae i “draen ochrol” yr ystyr a roddir i “lateral drain” yn adran 219(1) o Ddeddf 1991;
mae i “gwaith adeiladu” yr ystyr a roddir i “building work” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2010;
ystyr “hysbysiad adeiladu” (“building notice”) yw hysbysiad a roddir o dan reoliadau 12(2)(a) a 13 o Reoliadau 2010;
ystyr “hysbysiad corff cyhoeddus” (“public body’s notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 54 o Ddeddf 1984;
ystyr “hysbysiad cychwynnol” (“initial notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 47 o Ddeddf 1984;
ystyr “hysbysiad diwygio” (“amendment notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 51A o Ddeddf 1984;
ystyr “planiau llawn” (“full plans”) yw planiau sydd wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol at ddibenion adran 16 o Ddeddf 1984 ac yn unol â rheoliadau 12(2)(b) a 14 o Reoliadau 2010;
ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 20104;
ystyr “tystysgrif planiau” (“plans certificate”) yw tystysgrif a roddir o dan adran 50 o Ddeddf 1984.
2
Pan fo carthffos neu ddraen ochrol yn gysylltiedig â gwaith adeiladu—
a
pan fo hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, tystysgrif planiau, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus wedi ei roi i awdurdod lleol neu pan fo planiau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol, a hynny cyn 1 Hydref 2012; a
b
pan fo'r gwaith wedi ei ddechrau cyn 1 Hydref 2013,
yna mae adran 106B(4) o Ddeddf 1991 yn gymwys fel pe bai'r cyfeiriad yn adran 106B(4)(a) o Ddeddf 1991 at “standards published by the Minister” a'r cyfeiriad yn adran 106B(4)(b) o Ddeddf 1991 at “those standards” yn gyfeiriadau at yr hysbysiad, y dystysgrif neu'r planiau sy'n berthnasol.
3
Nid yw adran 106B(4) o Ddeddf 1991 yn gymwys i garthffos na draen ochrol sy'n gysylltiedig yn unig ag adeiladau neu estyniadau mewn perthynas â'r gwaith y caniateir ei ddechrau heb y gofyniad o dan Reoliadau 2010 i hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, tystysgrif planiau, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus gael ei roi i awdurdod lleol, neu i blaniau llawn gael eu hadneuo gydag awdurdod lleol.
4
Nid yw erthygl 3(3) yn gymwys ar ôl 1 Hydref 2013 ac eithrio i garthffos neu ddraen ochrol sy'n gysylltiedig ag adeiladau neu estyniadau y mae gwaith wedi dechrau ar eu cyfer cyn y dyddiad hwnnw.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dygwyd darpariaethau canlynol Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Darpariaeth y Ddeddf | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | |
Adran 1 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 2 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | |
Adran 2 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | |
Adran 3 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 4 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | |
Adran 4 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 5 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 6 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | |
Adran 6 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | |
Adrannau 7 i 10 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 11 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Adran 11 (o ran Cymru yn unig) | 1 Tachwedd 2011 | |
Adran 12 | 1 Tachwedd 2011 | |
Adran 13 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 14 | 6 Ebrill 2011 | |
Adran 15 (yn rhannol) | 18 Ionawr 2011 | |
Adran 15 (y gweddill, o ran Cymru yn unig) | 6 Ebrill 2011 | |
Adran 16 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 17 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 17 (y gweddill) | 1 Ebrill 2011 | |
Adran 18 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Adran 18 (o ran Cymru yn unig) | 1 Tachwedd 2011 | |
Adran 19 | 6 Ebrill 2011 | |
Adran 20 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 21 | 6 Ebrill 2011 | |
Adran 22 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 22 (y gweddill) | 1 Ebrill 2011 | |
Adran 23 | 1 Ebrill 2011 | |
Adran 24 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 25 | 1 Ebrill 2011 | |
Adran 26 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 27 | 1 Hydref 2011 | |
Adrannau 28 a 29 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 30 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2011 | |
Adran 30 (y gweddill) | 1 Awst 2012 | |
Adran 31 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
1 Ebrill 2011 | ||
6 Ebrill 2011 | ||
19 Gorffennaf 2011 | ||
1 Hydref 2011 | ||
6 Ebrill 2012 | ||
Adran 33 (yn rhannol) | 1 Hydref 2011 | |
Adran 34 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
1 Ebrill 2011 | ||
Adran 35 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 36 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | |
Adran 36 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 37 | 6 Ebrill 2011 | |
Adrannau 38 a 39 (yn rhannol) | 18 Ionawr 2011 | |
Adrannau 38 a 39 (y gweddill) | 1 Rhagfyr 2011 | |
Adrannau 40 ac 41 | 1 Hydref 2010 | |
Adrannau 42 a 43 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 44 | 1 Hydref 2011 | |
Adran 45 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Adrannau 46 a 47 | 1 Hydref 2010 | |
Yn Atodlen 1— | ||
Paragraffau 15 ac 16 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2011 | |
Paragraff 17 | 6 Ebrill 2011 | |
Atodlen 1 (y gweddill) | 1 Awst 2012 | |
Yn Atodlen 2— | ||
Paragraffau 1 i 24 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Paragraffau 1 i 24 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraff 25 | 1 Hydref 2010 | |
Paragraffau 26 a 27 | 6 Ebrill 2012 | |
Paragraff 28 | 1 Hydref 2010 | |
Paragraffau 29 a 30 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Paragraffau 29 a 30 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraffau 31, 32(1) i (3) a (5) i (7), 33 a 34 | 6 Ebrill 2012 | |
Paragraffau 35 ac 36 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Paragraffau 35 ac 36 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraff 37 | 6 Ebrill 2011 | |
Paragraffau 38 a 39 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Paragraffau 38 a 39 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraffau 40, 41, 43 a 44 | 1 Ebrill 2011 | |
Paragraffau 45 i 47 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Paragraffau 45 i 47 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraff 48 | 1 Ebrill 2011 | |
Paragraff 49 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Paragraff 49 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraffau 50 i 53 | 1 Ebrill 2011 | |
Paragraff 54 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Paragraff 54 (y gweddill) | 6 Ebrill 2011 | |
Yn Atodlen 4— | ||
Paragraff 1 | 1 Hydref 2011 | |
Paragraffau 2, 4, 7, 10, 12, 22, 25, 27, 30, 31, 32, 33 a 37 (yn rhannol) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraffau 38 i 40, 42 a 43 | 1 Hydref 2011 | |
Yn Atodlen 5— | ||
Paragraffau 1 a 2 | 1 Ebrill 2011 | |
Paragraff 3 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Paragraff 4 | 1 Ebrill 2011 | |
Paragraffau 5 a 6 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 |