1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2012 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Medi 2012.
2.—(1) Mae'r Atodlen yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael o ganlyniad i gychwyn Rhan 1 o Fesur Tai (Cymru) 2011.
(2) Daw'r diwygiadau sydd wedi eu rhestru yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Medi 2012.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
9 Awst 2012