Offerynnau Statudol Cymru
2012 Rhif 2091 (Cy.241) (C.83)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012
Gwnaed
9 Awst 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 90(2) o Fesur Tai (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 3 Medi 2012; ac
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Tai (Cymru) 2011.
Cychwyn Rhan 1 o Fesur Tai (Cymru) 2011 (Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig) ar y dyddiad cychwyn
2. Daw Rhan 1 o'r Mesur (Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig) i rym ar y dyddiad cychwyn.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
9 Awst 2012
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn cychwyn Rhan 1 (Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig) o Fesur Tai (Cymru) 2011 (“y Mesur”) ar 3 Medi 2012.
Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru o dan adran 1 o'r Mesur am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn ei ardal am gyfnod o hyd at 5 mlynedd, ar yr amod ei fod wedi cwblhau ymgynghoriad yn unol ag adran 2 o'r Mesur o fewn y cyfnod o 6 mis cyn y cais, a'i fod, yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw, yn dod i'r casgliad bod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai (fel a nodir yn adran 1(2) o'r Mesur) yn bodoli.
Dyma'r ail Orchymyn Cychwyn a wnaed o dan y Mesur.
Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Darpariaethau | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Rhan 2 o Fesur Tai (Cymru) 2011 | Daeth y rhan fwyaf o Ran 2 o'r Mesur i rym ar 18 Hydref 2011 a'r gweddill ar 2 Rhagfyr 2011 | 2011/2475 (Cy. 267 (C.89)) |