Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2012 a daw i rym ar 5 Hydref 2012.

(2Ystyr “Gorchymyn 1995” (“The 1995 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(1).

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio mewn perthynas â thir amaethyddol

2.—(1Mae Rhan 6 o Atodlen 2 (adeiladau a gweithrediadau amaethyddol) i Orchymyn 1995 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Nosbarth A, ar ddiwedd paragraff (h) o baragraff A.1 (datblygiad nas caniateir) hepgorer “or”.

(3Yn Nosbarth A, ar ddiwedd paragraff (i) o baragraff A.1 (datblygiad nas caniateir) yn lle “.” rhodder “; or”.

(4Yn Nosbarth A, ar ôl paragraff (i) o baragraff A.1 (datblygiad nas caniateir) mewnosoder—

(j)any building for storing fuel for or waste from a biomass boiler or an anaerobic digestion system—

(i)would be used for storing fuel not produced on land within the unit or waste not produced by that boiler or system; or

(ii)is or would be within 400 metres of the curtilage of a protected building.

(5Yn Nosbarth A, ym mharagraff (1)(a) o baragraff A.2 (amodau) ar ôl “sewage sludge” hepgorer “;” a mewnosoder “, for housing a biomass boiler or an anaerobic digestion system, for storage of fuel for or waste from that boiler or system, or for housing a hydro-turbine;”.

(6Yn Nosbarth B, ar ddiwedd paragraff (d) o baragraff B.1 (datblygiad nas caniateir) hepgorer “or”.

(7Yn Nosbarth B, ar ddiwedd paragraff (e) o baragraff B.1 (datblygiad nas caniateir) yn lle “.” rhodder “; or”.

(8Yn Nosbarth B, ar ôl paragraff (e) o baragraff B.1 (datblygiad nas caniateir) mewnosoder—

(f)any building for storing fuel for or waste from a biomass boiler or an anaerobic digestion system would be used for storing fuel not produced on land within the unit or waste not produced by that boiler or system.

(9Yn Nosbarth B, ym mharagraff B.5 (amodau) ar ôl “sewage sludge” hepgorer “.” a mewnosoder “, for housing a biomass boiler or an anaerobic digestion system, for storage of fuel for or waste from that boiler or system, or for housing a hydro-turbine.”

(10Yn Nosbarth D (dehongli Rhan 6) ar ôl paragraff D.7 mewnosoder—

D.8 For the purposes of Class A(a) “the purposes of agriculture” includes works for the erection, extension or alteration of a building for housing a biomass boiler or an anaerobic digestion system, for storage of fuel for or waste from that boiler or system, or for housing a hydro-turbine.

D.9 For the purposes of Class B(a) “the purposes of agriculture” includes the extension or alteration of an agricultural building for housing a biomass boiler or an anaerobic digestion system, for storage of fuel for or waste from that boiler or system, or for housing a hydro-turbine.

Diwygio mewn perthynas â thir coedwigaeth

3.—(1Mae Rhan 7 o Atodlen 2 (adeiladau a gweithrediadau coedwigaeth) i Orchymyn 1995 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff A.1 (datblygiad nas caniateir) ar ddiwedd paragraff (b) hepgorer “or”.

(3Ym mharagraff A.1 (datblygiad nas caniateir) ar ddiwedd paragraff (c) yn lle “.” rhodder “; or”.

(4Ym mharagraff A.1 (datblygiad nas caniateir) ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)any building for storing fuel for or waste from a biomass boiler or an anaerobic digestion system would be used for storing fuel not produced on land which is occupied together with that building for the purposes of forestry or waste not produced by that boiler or system.

(5Ar ôl paragraff A.3 (dehongli Dosbarth A) mewnosoder—

A.4 For the purposes of Class A(a) “the purposes of forestry” includes works for the erection, extension or alteration of a building for housing a biomass boiler or an anaerobic digestion system, for storage of fuel for or waste from that boiler or system, or for housing a hydro-turbine.

Diwygio mewn perthynas â microgynhyrchu annomestig

4.  Ar ôl Rhan 42 o Atodlen 2 (siopau neu sefydliadau arlwyo, gwasanaethau ariannol neu broffesiynol) i Orchymyn 1995 mewnosoder Rhan 43 fel y'i gosodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

6 Medi 2012