Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) (Rhif 2) 2012 a deuant i rym ar 5 Hydref 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Atodlen 2” (“Schedule 2”) yw Atodlen 2 i Orchymyn 1995;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; ac
ystyr “Gorchymyn 1995” (“the 1995 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(1).
(1)
O.S. 1995/418; gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2006/124 (Cy.17), 2009/2193 (Cy.185) a 2012/1346 (Cy.167).