xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2. At ddibenion paragraffau (2A)(a) a (3C)(a) o adran 108 o'r Ddeddf (digolledu pan fo gorchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl), mae datblygiad o'r disgrifiad canlynol yn rhagnodedig—
(a)datblygiad a ganiateir gan Ran 1 o Atodlen 2 (datblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd);
(b)datblygiad a ganiateir gan Ddosbarth A o Ran 8 o Atodlen 2 (estyn neu newid adeilad diwydiannol neu warws);
(c)datblygiad a ganiateir gan Ran 32 o Atodlen 2 (ysgolion, colegau, prifysgolion ac ysbytai);
(d)datblygiad a ganiateir gan Ran 40 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu domestig); a
(e)datblygiad a ganiateir gan Ran 43 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu annomestig).