RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 27 Chwefror 2012.

Ystyr “marchnata”

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “marchnata” (“marketing”) yw gwerthu, dal gyda golwg ar werthu, cynnig ar werth neu unrhyw waredu, cyflenwi neu drosglwyddo i drydydd partïon, sydd, ym mhob achos, yn amcanu i elwa'n fasnachol ar hadau, boed yn gyfnewid am gydnabyddiaeth ai peidio.

(2Ond nid yw marchnata'n cynnwys masnachu nad yw'n amcanu i elwa'n fasnachol, megis—

(a)cyflenwi hadau i gyrff profi ac archwilio swyddogol; neu

(b)cyflenwi hadau i berson sy'n darparu gwasanaethau prosesu ond nad yw'n caffael teitl i'r hadau.

Dehongli termau eraill

3.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)“Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom National List”) yw'r rhestr o amrywogaethau planhigion a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â darpariaethau Rheoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(1);

(b)y “Catalog Cyffredin” (“Common Catalogue”) yw'r catalog y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/53/EC ar y catalog cyffredin o amrywogaethau o rywogaethau planhigion amaethyddol(2) ac yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau(3).

(2Yn y Rheoliadau hyn mae pob cyfeiriad at—

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys(4),

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd(5),

(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant(6),

(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr(7),

(d)Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau,

(dd)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol amaethyddol ac amrywogaethau amaethyddol sydd wedi ymaddasu'n naturiol i'r amodau lleol a rhanbarthol ac a fygythir gan erydu genetig, ac at ddibenion marchnata hadau a thatws hadyd o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny(8),

(e)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau o lysiau yr arferid, yn draddodiadol, eu tyfu mewn ardaloedd a rhanbarthau penodol ac sydd dan fygythiad oherwydd erydu genetig, ac amrywogaethau o lysiau nad oes iddynt werth cynhenid o ran cynhyrchu cnydau masnachol, ond a ddatblygwyd i'w tyfu o dan amodau penodol, ac ar gyfer marchnata hadau o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny(9), ac

(f)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol ar gyfer marchnata cymysgeddau o hadau planhigion porthiant y bwriedir eu defnyddio i ddiogelu'r amgylchedd naturiol(10),

yn gyfeiriadau at y Cyfarwyddebau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

(2)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 (OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1).

(3)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).

(4)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 12, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/117/EC (OJ Rhif L 14, 18.1.2005, t. 18).

(5)

OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2309, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).

(6)

OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).

(7)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).

(8)

OJ Rhif L 162, 21.6.2008, t. 13.

(9)

OJ Rhif L 312, 27.11.2009, t. 44.

(10)

OJ Rhif L 228, 31.8.2010, t. 10.