RHAN 5Gweinyddu a dirymiadau
Tynnu ardystiad yn ôl
23.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu ardystiad yn ôl oddi ar unrhyw hadau os bodlonir hwy—
(a)bod yr hadau, neu'r hadau y tyfwyd ohonynt y cnwd a gynhyrchodd yr hadau, wedi eu samplu yn anghywir;
(b)nad oedd y cnwd y cynaeafwyd yr hadau ohono yn bodloni'r amodau yn Atodlen 2; neu
(c)nad oedd yr hadau—
(i)yn bodloni'r amodau yn Atodlen 2 pan brofwyd hwy; neu
(ii)nad ydynt bellach yn bodloni'r amodau hynny.
(2) Os tynnir ardystiad yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd.
(3) O fewn 7 diwrnod ar ôl ei hysbysu, rhaid i'r ceisydd hysbysu unrhyw berson y gwerthwyd neu y cyflenwyd yr hadau iddo.
Samplu at ddibenion gorfodi
24.—(1) Rhaid i sampl o hadau a gymerir at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn gael ei gymryd gan swyddog awdurdodedig Gweinidogion Cymru, a rhaid iddo rannu'r sampl yn dair rhan.
(2) Rhaid rhoi un rhan i berchennog yr hadau (neu gynrychiolydd y perchennog) a rhaid anfon y ddwy ran arall i orsaf brofi swyddogol, un ar gyfer profi a'r llall i'w chadw hyd nes ei dangos gerbron llys yn unol ag adran 26(7) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1).
Ffurfiau tystysgrifau a ddefnyddir ar gyfer gorfodi
25.—(1) At ddibenion adran 26(3) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, rhaid i dystysgrif o'r modd y cymerwyd sampl at y diben o orfodi'r Rheoliadau hyn—
(a)cyfeirio at y Rheoliadau hyn, ac ardystio bod y sampl wedi ei gymryd a'i drin yn unol â rheoliad 24;
(b)pennu—
(i)enw a chyfeiriad y person a gymerodd y sampl;
(ii)y fangre lle y cymerwyd y sampl;
(iii)y math o hadau a samplwyd;
(iv)y dyddiad y cymerwyd y sampl;
(v)rhif cyfeirnod y lot o hadau;
(vi)y maint a samplwyd.
(2) At ddibenion adran 24(5) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, rhaid i dystysgrif o ganlyniad prawf a wnaed mewn gorsaf brofi hadau swyddogol, ar sampl a gymerwyd gan swyddog awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno—
(a)cyfeirio at y Rheoliadau hyn;
(b)enwi'r hadau a brofwyd;
(c)cynnwys yr holl ganlyniadau prawf mewn perthynas â'r safon ofynnol ar gyfer yr hadau hynny.
Ardystio ar gyfer allforio
26. Caiff Gweinidogion Cymru ardystio ansawdd unrhyw hadau y bwriedir eu hallforio i'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Mewnforio o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd
27.—(1) Rhaid labelu hadau a fewnforir o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd gyda label a gymeradwyir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd(2) ar gyfer yr ardystiad amrywogaethol ar reolaeth hadau a symudir mewn masnach ryngwladol.
(2) Os bwriedir lluosi'r hadau ymhellach, rhaid i'r person sy'n bwriadu eu lluosi gyflwyno sampl i Weinidogion Cymru yn gyntaf, ar gyfer ei wirio.
(3) Rhaid i berson sy'n marchnata hadau a fewnforiwyd o drydedd wlad ac sydd â'u pwysau'n fwy na dau gilogram, gyflenwi i Weinidogion Cymru, mewn ysgrifen ac o fewn un mis ar ôl marchnata'r hadau am y tro cyntaf, y manylion canlynol ynglŷn â'r hadau—
(a)y rhywogaeth;
(b)yr amrywogaeth;
(c)y categori;
(ch)y wlad lle'u cynhyrchwyd a'r awdurdod archwilio swyddogol;
(d)y wlad y'u hanfonwyd ohoni;
(dd)y mewnforiwr; ac
(e)y maint o hadau.
Apelau
28.—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad gan Weinidogion Cymru i—
(a)amrywio, atal dros dro, dirymu neu wrthod caniatáu trwydded arolygydd cnydau, samplwr hadau, gorsaf brofi hadau, neu berson y mae arno angen trwydded o dan reoliad 20,
(b)gwrthod ardystio hadau,
(c)tynnu ardystiad hadau yn ôl,
o fewn 21 diwrnod ar ôl ei hysbysu o'r penderfyniad, apelio yn erbyn y penderfyniad, i berson a benodir at y diben gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i'r person a benodir ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o fewn 21 diwrnod ynghyd ag argymhelliad ar sut i weithredu.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru wedyn wneud penderfyniad terfynol a hysbysu'r apelydd, ynghyd â'r rhesymau.
Ffioedd
29. Caiff Gweinidogion Cymru godi ffi resymol am unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn.
Marchnata hadau o dan randdirymiad penodol
30. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu fel yr Aelod-wladwriaeth at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 217/2006 sy'n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Cyfarwyddebau'r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 2002/54/EC, 2002/55/EC a 2002/57/EC mewn perthynas ag awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ganiatáu dros dro farchnata hadau nad ydynt yn bodloni'r gofynion o ran yr egino lleiaf(3).
Cyfrinachedd
31. Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â datgelu'r disgrifiad o gydrannau achyddol hadau, os yw bridiwr yr hadau yn gofyn iddynt beidio â'i ddatgelu.
Trwyddedu ac ardystio mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig
32.—(1) Ceir marchnata yng Nghymru unrhyw hadau a ardystiwyd mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig.
(2) Caiff arolygydd cnydau, samplwr hadau neu orsaf brofi hadau a drwyddedwyd i weithredu fel y cyfryw mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig weithredu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn.
Darpariaethau trosiannol
33.—(1) Mae arolygydd cnydau, samplwr hadau neu orsaf brofi hadau a oedd, ar yr adeg y daeth y Rheoliadau hyn i rym, wedi ei drwyddedu neu ei thrwyddedu o dan Reoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005(4) yn parhau wedi ei drwyddedu neu ei thrwyddedu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae person y mae'n ofynnol iddo fod yn drwyddedig o dan reoliad 20 o'r Rheoliadau hyn, ac a oedd, ar yr adeg y daeth y Rheoliadau hyn i rym, yn drwyddedig o dan Reoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005, yn awr yn drwyddedig i weithredu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau a hysbysir gan Weinidogion Cymru, a bydd yn parhau'n drwyddedig oni chaiff y drwydded ei hatal dros dro neu'i dirymu'n ddiweddarach gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn.
Dirymu
34. Dirymir y Rheoliadau canlynol—
(a)Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Cymru) 2004(5);
(b)Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005(6);
(c)Rheoliadau Hadau ŷd (Cymru) 2005(7);
(ch)Rheoliadau Hadau Betys (Cymru) 2005(8);
(d)Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005(9);
(dd)Rheoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005(10);
(e)Rheoliadau Hadau ŷd (Cymru) a Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) (Diwygio) 2006(11);
(f)Rheoliadau Hadau (Cymru) (Diwygiadau ar gyfer Cynnal Profion a Threialu etc.) 2007(12);
(ff)Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywogaethau Cadwraeth) (Cymru) 2009(13);
(g)Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010(14);
(ng)Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) (Diwygio) 2011(15).
Mae manylion am y labeli hyn ar gael ar wefan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
OJ Rhif L 38, 9.2.2006, t. 17.