Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

Pecynnu a selio

16.—(1Rhaid i'r holl hadau, ac eithrio hadau a werthir yn rhydd (ynglŷn â hynny gweler Rhan 5 o Atodlen 3), gael eu cyflenwi mewn pecynnau seliedig, gan berson a drwyddedwyd i wneud hynny o dan reoliad 20.

(2Rhaid i'r hadau a becynnir fod mewn lotiau unffurf.

(3Rhaid i becyn gael ei selio gan, neu o dan oruchwyliaeth, samplwr hadau trwyddedig.

(4Rhaid i'r pecyn fod â system selio na ellir ei hailddefnyddio, neu gael ei selio mewn modd y byddai ei agor—

(a)yn difrodi'r system selio; neu

(b)yn gadael tystiolaeth o ymyrryd, naill ai ar y label neu ar y pecyn.

(5Os agorir pecyn gan rywun ac eithrio'r defnyddiwr terfynol, rhaid ail-labelu'r pecyn a'i ailselio gan, neu o dan oruchwyliaeth, samplwr hadau trwyddedig, a rhaid datgan, ar y label, y ffaith ei fod wedi ei ailselio, y dyddiad yr ailseliwyd ef ddiwethaf a'r awdurdod sy'n gyfrifol amdano.

(6Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â marchnata pecynnau bach o hadau fel y'u diffinnir yn Atodlen 3.