RHAN 4Trwyddedu

Gweithrediadau y mae trwydded gan Weinidogion Cymru yn ofynnol ar eu cyfer20

1

Rhaid i unrhyw berson sy'n ymgymryd ag unrhyw un o'r gweithrediadau canlynol fod wedi ei drwyddedu i wneud hynny gan Weinidogion Cymru—

a

marchnata hadau;

b

pecynnu, selio neu labelu hadau;

c

ailbecynnu, ailselio neu ail-labelu hadau;

ch

paratoi cymysgeddau o hadau i'w marchnata;

d

glanhau, trin neu brosesu mewn unrhyw ffordd arall hadau y bwriedir eu marchnata.

2

Ond nid yw'r gofyniad am drwydded yn gymwys mewn perthynas â marchnata—

a

pecynnau bach o hadau fel y'u diffinnir yn Atodlen 3;

b

hadau nad ydynt wedi eu pecynnu; neu

c

hadau, fel y'u tyfwyd, ar gyfer prosesu, ar yr amod y sicrheir hunaniaeth yr hadau o dan baragraff 2 o Atodlen 4.