RHAN 1Cyflwyniad

Dehongli termau eraill3

1

At ddibenion y Rheoliadau hyn—

a

“Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom National List”) yw'r rhestr o amrywogaethau planhigion a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â darpariaethau Rheoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 20013;

b

y “Catalog Cyffredin” (“Common Catalogue”) yw'r catalog y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/53/EC ar y catalog cyffredin o amrywogaethau o rywogaethau planhigion amaethyddol4 ac yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau5.

2

Yn y Rheoliadau hyn mae pob cyfeiriad at—

a

Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys6,

b

Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd7,

c

Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant8,

ch

Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr9,

d

Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau,

dd

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol amaethyddol ac amrywogaethau amaethyddol sydd wedi ymaddasu'n naturiol i'r amodau lleol a rhanbarthol ac a fygythir gan erydu genetig, ac at ddibenion marchnata hadau a thatws hadyd o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny10,

e

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol at ddibenion derbyn amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau o lysiau yr arferid, yn draddodiadol, eu tyfu mewn ardaloedd a rhanbarthau penodol ac sydd dan fygythiad oherwydd erydu genetig, ac amrywogaethau o lysiau nad oes iddynt werth cynhenid o ran cynhyrchu cnydau masnachol, ond a ddatblygwyd i'w tyfu o dan amodau penodol, ac ar gyfer marchnata hadau o'r amrywogaethau brodorol ac amrywogaethau hynny11, ac

f

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU sy'n darparu ar gyfer rhanddirymiadau penodol ar gyfer marchnata cymysgeddau o hadau planhigion porthiant y bwriedir eu defnyddio i ddiogelu'r amgylchedd naturiol12,

yn gyfeiriadau at y Cyfarwyddebau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.