RHAN 5Gweinyddu a dirymiadau

Darpariaethau trosiannol

33.—(1Mae arolygydd cnydau, samplwr hadau neu orsaf brofi hadau a oedd, ar yr adeg y daeth y Rheoliadau hyn i rym, wedi ei drwyddedu neu ei thrwyddedu o dan Reoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005(1) yn parhau wedi ei drwyddedu neu ei thrwyddedu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn.

(2Mae person y mae'n ofynnol iddo fod yn drwyddedig o dan reoliad 20 o'r Rheoliadau hyn, ac a oedd, ar yr adeg y daeth y Rheoliadau hyn i rym, yn drwyddedig o dan Reoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005, yn awr yn drwyddedig i weithredu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau a hysbysir gan Weinidogion Cymru, a bydd yn parhau'n drwyddedig oni chaiff y drwydded ei hatal dros dro neu'i dirymu'n ddiweddarach gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn.