ATODLEN 2Gofynion ardystio

RHAN 4Olew a ffibr

Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer amrywogaethau nad ydynt yn hybridiau34

Yn achos amrywogaeth nad yw'n hybrid, hadau sylfaenol yw hadau—

a

a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;

b

a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—

i

hadau ardystiedig,

ii

hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf,

iii

hadau ardystiedig, ail genhedlaeth; neu

iv

hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth.