- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
20. Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r mathau o blanhigion porthiant yn Atodlen 1.
21.—(1) Rhaid i hadau porthiant fod yn—
(a)hadau cyn-sylfaenol;
(b)hadau sylfaenol;
(c)hadau ardystiedig;
(ch)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf;
(d)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;
(dd)hadau masnachol; neu
(e)hadau o safon wirfoddol uwch.
(2) Caiff yr hadau fod yn gymysgedd o rywogaethau porthiant o wahanol amrywogaethau ar yr amod bod pob amrywogaeth yn y cymysgedd wedi ei hardystio.
22. Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—
(i)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;
(ii)hadau sylfaenol; neu
(iii)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig CS, C1 neu C2.
23.—(1) Hadau sylfaenol yw hadau—
(a)amrywogaethau a fridiwyd; neu
(b)amrywogaethau lleol.
(2) Hadau amrywogaethau a fridiwyd yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.
(3) Hadau amrywogaethau lleol yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o dan reolaeth swyddogol, allan o ddeunydd y derbyniwyd ei fod o'r amrywogaeth leol, ar un neu ragor o ddaliadau o fewn rhanbarth tarddiad y diffiniwyd ei derfynau yn eglur;
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.
24. Hadau ardystiedig yw hadau (ac eithrio ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa), bysedd-y-blaidd a ffacbys)—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu yn uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; ac
(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau.
25. Hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf mewn perthynas â ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa) bysedd-y-blaidd a ffacbys yw hadau—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a
(b)a fwriedir ar gyfer—
(i)cynhyrchu hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (yn achos ffa'r maes a phys y maes yn unig); neu
(ii)dibenion ac eithrio cynhyrchu hadau (ym mhob achos).
26. Hadau ardystiedig, ail genhedlaeth mewn perthynas â ffa'r maes, pys y maes, maglys rhuddlas (Medicagio sativa) bysedd-y-blaidd a ffacbys yw hadau—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol, o hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf (C1), neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a
(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion porthiant.
27. Hadau masnachol yw hadau gweunwellt unflwydd, ffacbys Hwngari neu'r godog, y gellir eu hadnabod fel rhai sy'n perthyn i rywogaeth.
28.—(1) Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(3)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant(1) ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.
(2) Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.
(3) Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.
29. Yn achos troed y ceiliog, festulolium, rhygwellt hybrid, rhygwellt yr Eidal, maglys rhuddlas, peiswellt, rhygwellt parhaol, meillion coch, peiswellt coch, y godog, rhonwellt bach, rhonwellt, gweunwellt llyfn, peiswellt tal a meillion gwyn, ceir marchnata hadau ardystiedig (CS) fel hadau ardystiedig o safon wirfoddol uwch.
30. Rhaid i'r sampl a gymerir o dan baragraff 28(2) at ddiben Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC gyrraedd y safonau gofynnol a bennir yn y tabl canlynol.
Pennawd colofn | Purdeb dadansoddol gofynnol (% yn ôl pwysau) | Cyfanswm pwysau'r holl rywogaethau eraill (% yn ôl pwysau) | Cyfanswm pwysau un rhywogaeth unigol arall (% yn ôl pwysau) | Hadau Rumex spp ac eithrio R acetosella ac R maritimus | Hadau marchwellt | Hadau cynffonwellt du | Terfynau ar gyfer rhywogaethau penodol eraill |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Glaswelltau meinddail | |||||||
festulolium | 98 | 1.5 | 0 | 0 | 10 | 0 | |
peiswellt coch | 95 | 1.5 | 0.5 | 5 | 10 | 10 | Ni chaiff y sampl gynnwys mwy na phedwar hedyn o rygwellt, troed y ceiliog, peiswellt a 0.3% gweunwellt garw |
gweunwellt llyfn | 90 | 1.5 | 0.5 | 2 | 3 | 3 | Uchafswm o 0.4% yn ôl pwysau o hadau gweunwelltau eraill |
Glaswelltau porthiant | |||||||
troed y ceiliog | 90 | 1.5 | 0.5 | 5 | 10 | 10 | |
peiswellt, peiswellt tal | 98 | 1.5 | 0.5 | 5 | 10 | 10 | 0.3% gweunwellt garw, 0.3% rhygwellt |
rhygwellt hybrid, rhygwellt yr Eidal, rhygwellt parhaol | 98 | 1.5 | 0.5 | 5 | 10 | 10 | 0.4% gweunwellt unflwydd, 0.3% gweunwellt garw |
rhonwellt bach, rhonwellt | 98 | 1.5 | 0.5 | 4 | 10 | 10 | 0.3% Agrostis xmlns="http://www.tso.co.uk/assets/namespace/legislation">spp |
Codlysiau hadau bach> | |||||||
maglys rhuddlas, meillion coch, meillion gwyn | 98 | 1.5 | 0.5 | 10 | 10 | 10 | 0.3% Melitotus xmlns="http://www.tso.co.uk/assets/namespace/legislation">spp |
y godog | 98 | 1.5 | 0.5 | 5 | 10 | 10 | 0.3% Melitotus xmlns="http://www.tso.co.uk/assets/namespace/legislation">spp |
OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: