Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 4Olew a ffibr

Cwmpas Rhan 4

31.  Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r mathau o blanhigion olew a ffibr yn Atodlen 1.

Mathau a ganiateir o hadau olew a ffibr

32.  Rhaid i hadau olew a ffibr fod yn—

(a)hadau cyn-sylfaenol;

(b)hadau sylfaenol;

(c)hadau ardystiedig;

(ch)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf;

(d)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;

(dd)hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth; neu

(e)hadau masnachol.

Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”

33.—(1“Hadau cyn-sylfaenol” yw hadau cenhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth, a

(b)a fwriedir i'w defnyddio i gynhyrchu mwy o hadau cyn-sylfaenol, hadau sylfaenol, neu, gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr—

(i)yn achos mwstard du, mwstard brown, cywarch deuoecaidd, blodau'r haul, rêp swêds, rêp maip, neu fwstard gwyn, hadau CS;

(ii) yn achos cywarch monoecaidd neu ffa soia, hadau C1 neu C2;

(iii)yn achos llin neu had llin, hadau C1, C2 neu C3.

(2Ond mewn perthynas â chydran mewn amrywogaeth hybrid, ystyr “hadau cyn-sylfaenol” yw hadau o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol, a fwriedir i'w defnyddio i gynhyrchu—

(a)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;

(b)hadau sylfaenol; neu

(c)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau CS.

Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer amrywogaethau nad ydynt yn hybridiau

34.  Yn achos amrywogaeth nad yw'n hybrid, hadau sylfaenol yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—

(i)hadau ardystiedig,

(ii)hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf,

(iii)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth; neu

(iv)hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth.

Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer llinellau mewnfrid

35.  Yn achos llinell fewnfrid, hadau sylfaenol yw hadau llinell fewnfrid o hybrid, sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol.

Ystyr “hadau sylfaenol” ar gyfer hybridiau syml

36.  Yn achos hybrid syml, hadau sylfaenol yw hadau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hybridiau.

Ystyr “hadau ardystiedig”

37.  Hadau ardystiedig yw hadau mwstard du, mwstard Tsieina, mwstard gwyn, cywarch deuoceaidd, blodau'r haul, rêp swêds neu rêp maip—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol, sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol;

(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion olew neu ffibr.

Ystyr “hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf”

38.  Hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf yw hadau cywarch monoecaidd, llin, had llin neu soia—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol;

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu naill ai—

(i)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth;

(ii)pan fo'n briodol, hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth; neu

(iii)at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau planhigion olew neu ffibr.

Ystyr “hadau ardystiedig, ail genhedlaeth”

39.—(1Hadau ardystiedig, ail genhedlaeth yw hadau llin, had llin, soia neu gywarch monoecaidd.

(2Yn achos llin, had llin a soia, maent yn hadau—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol, o hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf, neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau cyn-sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol; a

(b)a fwriedir—

(i)at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau, neu,

(ii)pan fo'n briodol, cynhyrchu hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth.

(3Yn achos cywarch monoceaidd, maent yn hadau—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf, a sefydlwyd ac a reolwyd yn swyddogol gyda golwg ar gynhyrchu hadau ardystiedig o'r ail genhedlaeth; a

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu cywarch sydd i'w gynaeafu yn ei flodau.

Ystyr “hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth”

40.  Hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth yw hadau o lin neu had llin—

(a)sy'n ddisgynyddion uniongyrchol hadau sylfaenol, hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf neu'r ail neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o hadau o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol; a

(b)a fwriedir at ddibenion ac eithrio cynhyrchu hadau.

Ystyr “hadau masnachol”

41.  Hadau masnachol (hadau mwstard du yn unig) yw hadau y gellir eu hadnabod fel rhai sy'n perthyn i rywogaeth.

Gofynion cnydau a hadau

42.—(1Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(5)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr(1) ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.

(2Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.

(3Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.

Gofynion ar gyfer uniad amrywogaethol

43.—(1Rhaid i hadau sy'n cael eu marchnata fel uniad amrywogaethol gydymffurfio â'r paragraff hwn.

(2Rhaid i'r uniad amrywogaethol fod yn uniad rhwng hadau CS ardystiedig amrywogaeth hybrid peillydd-ddibynnol benodedig, a hadau CS ardystiedig un neu ragor o amrywogaethau peillydd penodedig, a rhaid i'r ddau fath o hadau fod wedi eu derbyn ar Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin.

(3Rhaid i hadau'r cydrannau benyw a gwryw mewn uniad amrywogaethol fod wedi eu trin gan ddefnyddio sylweddau trin hadau o liwiau gwahanol.

(4Rhaid cyfuno'r hadau yn fecanyddol yn y cyfrannau a benderfynwyd ar y cyd gan y personau sy'n gyfrifol am gynnal y cydrannau dan sylw.

(5Rhaid hysbysu Gweinidogion Cymru o'r cyfrannau hyn, gan y person sy'n gyfrifol am gynnal yr hybrid peillydd-ddibynnol a'r peillyddion sydd o fewn yr uniad amrywogaethol.

(6Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “hybrid peillydd-ddibynnol” (“pollinator-dependent hybrid”) yw'r gydran wryw-anhiliog o fewn yr uniad amrywogaethol (y gydran fenyw);

(b)ystyr “peillydd” (“pollinator”) yw cydran sy'n gollwng paill o fewn uniad amrywogaethol.

(1)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t.74, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t.40).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources