19.—(1) Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau betys.
(2) Pecyn bach o hadau betys (a adwaenir fel “pecyn UE bach” (“small EU package”)) yw pecyn sydd—
(a)yn achos hadau betys sylfaenol ac ardystiedig o amrywogaethau trachywir neu uneginol, naill ai'n pwyso dim mwy na 2.5 kg neu'n cynnwys dim mwy na 100,000 o glystyrau;
(b)ar gyfer yr holl hadau betys eraill, yn pwyso dim mwy na 10kg.
(3) Rhaid i'r label fod o'r un lliw â'r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.
(4) Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label—
(a)y geiriau “Small EU package”;
(b)enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy'n gosod y label;
(c)y rhif cyfresol;
(ch)y gwasanaeth a ddyrannodd y rhif cyfresol;
(d)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;
(dd)y rhif cyfeirnod os nad yw'r rhif cyfresol swyddogol yn caniatáu adnabod y lot;
(e)y rhywogaeth;
(f)naill ai “sugar beet” neu “fodder beet” fel y bo'n briodol;
(ff)yr amrywogaeth;
(g)y categori;
(ng)y pwysau net neu gros neu'r nifer o glystyrau neu hadau pur;
(h)pan ddynodir y pwysau ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r clystyrau neu'r hadau pur a chyfanswm y pwysau;
(i)naill ai “monogerm” neu “precision” fel y bo'n briodol.