xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3Labelu a gwerthiannau rhydd

RHAN 4Labeli cyflenwr

Hadau betys: labeli cyflenwr

19.—(1Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau betys.

(2Pecyn bach o hadau betys (a adwaenir fel “pecyn UE bach” (“small EU package”)) yw pecyn sydd—

(a)yn achos hadau betys sylfaenol ac ardystiedig o amrywogaethau trachywir neu uneginol, naill ai'n pwyso dim mwy na 2.5 kg neu'n cynnwys dim mwy na 100,000 o glystyrau;

(b)ar gyfer yr holl hadau betys eraill, yn pwyso dim mwy na 10kg.

(3Rhaid i'r label fod o'r un lliw â'r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.

(4Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label—

(a)y geiriau “Small EU package”;

(b)enw, cyfeiriad a rhif adnabod y person sy'n gosod y label;

(c)y rhif cyfresol;

(ch)y gwasanaeth a ddyrannodd y rhif cyfresol;

(d)enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;

(dd)y rhif cyfeirnod os nad yw'r rhif cyfresol swyddogol yn caniatáu adnabod y lot;

(e)y rhywogaeth;

(f)naill ai “sugar beet” neu “fodder beet” fel y bo'n briodol;

(ff)yr amrywogaeth;

(g)y categori;

(ng)y pwysau net neu gros neu'r nifer o glystyrau neu hadau pur;

(h)pan ddynodir y pwysau ac os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r clystyrau neu'r hadau pur a chyfanswm y pwysau;

(i)naill ai “monogerm” neu “precision” fel y bo'n briodol.