ATODLEN 3Labelu a gwerthiannau rhydd

RHAN 4Labeli cyflenwr

Hadau olew a ffibr: labeli cyflenwr24

1

Ceir defnyddio label cyflenwr ar becyn bach o hadau olew a ffibr.

2

Pecyn bach o hadau olew a ffibr yw pecyn o unrhyw hadau olew a ffibr ardystiedig neu fasnachol, nad yw ei bwysau'n fwy na 15 kg.

3

Rhaid i'r label fod o'r un lliw â'r label swyddogol ar gyfer y categori hwnnw o hadau.

4

Rhaid i'r canlynol ymddangos ar y label—

a

y geiriau “EU Rules and standards”;

b

enw, cyfeiriad a rhif cofrestru'r cyflenwr sy'n gyfrifol am osod y label;

c

rhif cyfeirnod y lot hadau;

ch

y rhywogaeth (rhaid defnyddio'r enw botanegol, naill ai'n llawn neu yn ei ffurf gryno);

d

yr amrywogaeth;

dd

ar gyfer hadau ardystiedig, y categori;

e

ar gyfer hadau masnachol, y geiriau “commercial seed (not certified as to variety)”;

f

pwysau datganedig net neu gros clystyrau o hadau pur (ac eithrio ar gyfer pecynnau nad ydynt yn fwy na 500 gram);

ff

os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau.