ATODLEN 3Labelu a gwerthiannau rhydd

RHAN 2Labeli swyddogol

Labeli swyddogol ar gyfer hadau sylfaenol a hadau ardystiedig7

1

Rhaid i'r canlynol ymddangos ar label swyddogol ar hadau ardystiedig—

a

y geiriau “EU Rules and standards”;

b

enw'r awdurdod ardystio;

c

enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;

ch

rhif cyfeirnod y lot hadau;

d

naill ai—

i

mis a blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed ...” (mis a blwyddyn); neu

ii

mis a blwyddyn y samplu swyddogol diwethaf at ddibenion ardystio, a fynegir fel “sampled ...” (mis a blwyddyn);

dd

y rhywogaeth (rhaid defnyddio'r enw botanegol, naill ai'n llawn neu yn ei ffurf gryno, ac eithrio yn achos hadau betys neu lysiau, pryd y caniateir defnyddio'r enw cyffredin);

e

yr amrywogaeth;

f

y categori;

ff

y wlad y'u cynhyrchwyd ynddi;

g

y pwysau net neu gros datganedig neu'r nifer datganedig o hadau neu, yn achos betys, y nifer datganedig o glystyrau o hadau pur;

ng

os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r hadau a chyfanswm y pwysau (neu, yn achos betys, y gymhareb rhwng pwysau'r hadau pur a chyfanswm y pwysau);

h

os yw'r egino wedi ei ailbrofi, y gair “retested” a ddilynir gan fis a blwyddyn yr ailbrofi.

2

Rhaid i'r label fod o liw—

a

gwyn ar gyfer hadau sylfaenol;

b

glas ar gyfer hadau ardystiedig a hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf;

c

coch ar gyfer hadau ardystiedig o'r ail a'r drydedd genhedlaeth.