- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau amrywogaeth gadwraeth yn unol â'r paragraff hwn.
(2) Rhaid i'r hadau fod yn hadau amrywogaeth a restrwyd fel amrywogaeth gadwraeth yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig.
(3) Rhaid cynhyrchu'r hadau o gnwd a dyfir yn y rhanbarth a bennir fel tarddle'r amrywogaeth yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, neu fel yr awdurdodir gan Weinidogion Cymru.
(4) Ni cheir marchnata a defnyddio'r hadau ac eithrio yn y rhanbarth a ddatgenir fel y tarddle.
(5) Rhaid cyfyngu ar gyfanswm yr hadau sy'n cael eu marchnata mewn unrhyw un flwyddyn yn unol ag Erthygl 14 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC(1) (sy'n ymwneud ag amrywogaethau cadwraeth amaethyddol) ac Erthygl 15 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno(2) (sy'n ymwneud ag amrywogaethau cadwraeth o lysiau).
(6) Ac eithrio yn achos hadau amrywogaeth gadwraeth o lysieuyn a wiriwyd fel hadau safonol, rhaid i'r hadau fod yn ddisgynyddion hadau a gynhyrchwyd yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth.
(7) Yn achos hadau betys, hadau ŷd, hadau planhigion porthiant a hadau olew a ffibr, rhaid i'r hadau gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer ardystio hadau ardystiedig a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC(3) (hadau betys), Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC (hadau ŷd), Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC(4) (hadau planhigion porthiant) neu Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC(5) (hadau planhigion olew a ffibr) (yn ôl fe y digwydd), ac eithrio'r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol ac archwilio.
(8) Rhaid i hadau llysiau gydymffurfio ag—
(a)y gofynion ar gyfer ardystio hadau ardystiedig, a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC(6) ar farchnata hadau llysiau, ac eithrio'r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol ac archwilio; neu
(b)y gofynion ar gyfer marchnata hadau safonol a bennir yn y Gyfarwyddeb honno, ac eithrio'r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol.
(9) Rhaid i burdeb amrywogaethol hadau amrywogaeth gadwraeth fod yn ddigonol.
(10) Rhaid peidio â gwerthu'r hadau fel hadau rhydd o dan baragraff 26 o Atodlen 3.
(11) Rhaid labelu'r hadau gyda label cyflenwr neu hysbysiad printiedig neu stampiedig sydd, yn ychwanegol at gydymffurfio â darpariaethau cymwys y paragraff o Ran 4 o Atodlen 3 sy'n gymwys i'r math o hadau dan sylw (ac eithrio'r darpariaethau sy'n pennu lliw'r label)—
(a)yn cynnwys—
(i)yn achos amrywogaeth gadwraeth amaethyddol, y geiriau “conservation variety”, neu
(ii)yn achos amrywogaeth gadwraeth o lysieuyn, y geiriau “certified seed of a conservation variety” neu “standard seed of a conservation variety”;
(b)yn datgan rhanbarth y tarddiad; ac
(c)o liw brown.
(12) Yn y paragraff hwn, mae i “amrywogaeth gadwraeth” yr ystyr a roddir i “conservation variety” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(7).
OJ Rhif L 162, 21.6.2008, t.13.
OJ Rhif L 312, 27.11.2009, t.44.
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t.12, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/117/EC (OJ Rhif L 14, 18.1.2005, t. 18).
OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC.
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC.
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC.
O.S. 2001/3510; mewnosodwyd y diffiniad o “conservation variety” gan O.S. 2009/1273 ac amnewidiwyd gan O.S. 2011/464.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: