ATODLEN 4Eithriadau

RHAN 2Marchnata hadau nad ydynt yn cydymffurfio ag Atodlen 2

Marchnata amrywogaethau anrhestredig (ac eithrio hadau llysiau) ar gyfer profion a threialon9

1

Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau pan fo cais i'w cofnodi yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig wedi ei gyflwyno, ond hyd hynny heb ei ganiatáu.

2

Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â hadau llysiau (ymdrinnir â hadau llysiau yn y paragraff dilynol).

3

Rhaid i geisydd fod yn gynhyrchwr sefydledig yng Nghymru.

4

Mae awdurdodiad yn ddilys am un flwyddyn ac yn adnewyddadwy.

5

Bydd awdurdodiad yn annilys unwaith yr ychwanegir yr amrywogaeth at Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, neu y tynnir y cais i'w rhestru yn ôl neu y gwrthodir y cais.

6

Ni chaiff neb ofyn am awdurdodiad ac eithrio'r person a gyflwynodd gais am gofnodi'r amrywogaethau dan sylw yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig.

7

Ni cheir rhoi awdurdodiad ac eithrio ar gyfer cynnal profion neu dreialon mewn mentrau amaethyddol, er mwyn casglu gwybodaeth ynglŷn â thyfu neu ddefnyddio'r amrywogaeth.

8

Rhaid i'r meintiau a awdurdodir ar gyfer pob amrywogaeth beidio â bod yn fwy na'r canrannau canlynol o hadau o'r un rhywogaeth a ddefnyddir yn flynyddol yn y Deyrnas Unedig—

a

yn achos gwenith caled: 0.05 %,

b

yn achos pys maes, ffa maes, ceirch, haidd a gwenith: 0.3 %,

c

ym mhob achos arall: 0.1 %,

ac eithrio, os yw meintiau o'r fath yn annigonol ar gyfer hau 10 hectar, ceir awdurdodi'r maint sydd ei angen ar gyfer arwynebedd o'r fath.

9

Rhaid i hadau porthiant gydymffurfio â'r amodau ar gyfer—

a

hadau ardystiedig (pob rhywogaeth ac eithrio pys maes a ffa maes); neu

b

hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (pys maes a ffa maes).

10

Rhaid i hadau ŷd gydymffurfio â'r amodau ar gyfer—

a

hadau ardystiedig (rhyg, indrawn a hybridiau o geirch a cheirch coch, haidd, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen a rhygwenith ac eithrio amrywogaethau hunanbeilliol); neu

b

hadau ardystiedig, ail genhedlaeth ceirch a cheirch coch, haidd, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen ac amrywogaethau hunanbeilliol o rygwenith, ac eithrio hybridiau ym mhob achos.

11

Rhaid i hadau betys gydymffurfio â'r amodau ar gyfer hadau ardystiedig.

12

Rhaid i hadau planhigion olew a ffibr gydymffurfio â'r amodau ar gyfer—

a

hadau ardystiedig (pob rhywogaeth ac eithrio llin a had llin);

b

hadau ardystiedig, ail a thrydedd genhedlaeth (llin a had llin).

13

Rhaid labelu'r pecyn gyda label oren, y mae'n rhaid iddo gynnwys y geiriau “variety not yet officially listed; for tests and trials only” a phan fo'n gymwys “genetically modified variety” yn ychwanegol at y gofynion labelu eraill yn y Rheoliadau hyn.