9.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau pan fo cais i'w cofnodi yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig wedi ei gyflwyno, ond hyd hynny heb ei ganiatáu.
(2) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â hadau llysiau (ymdrinnir â hadau llysiau yn y paragraff dilynol).
(3) Rhaid i geisydd fod yn gynhyrchwr sefydledig yng Nghymru.
(4) Mae awdurdodiad yn ddilys am un flwyddyn ac yn adnewyddadwy.
(5) Bydd awdurdodiad yn annilys unwaith yr ychwanegir yr amrywogaeth at Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, neu y tynnir y cais i'w rhestru yn ôl neu y gwrthodir y cais.
(6) Ni chaiff neb ofyn am awdurdodiad ac eithrio'r person a gyflwynodd gais am gofnodi'r amrywogaethau dan sylw yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig.
(7) Ni cheir rhoi awdurdodiad ac eithrio ar gyfer cynnal profion neu dreialon mewn mentrau amaethyddol, er mwyn casglu gwybodaeth ynglŷn â thyfu neu ddefnyddio'r amrywogaeth.
(8) Rhaid i'r meintiau a awdurdodir ar gyfer pob amrywogaeth beidio â bod yn fwy na'r canrannau canlynol o hadau o'r un rhywogaeth a ddefnyddir yn flynyddol yn y Deyrnas Unedig—
(a)yn achos gwenith caled: 0.05 %,
(b)yn achos pys maes, ffa maes, ceirch, haidd a gwenith: 0.3 %,
(c)ym mhob achos arall: 0.1 %,
ac eithrio, os yw meintiau o'r fath yn annigonol ar gyfer hau 10 hectar, ceir awdurdodi'r maint sydd ei angen ar gyfer arwynebedd o'r fath.
(9) Rhaid i hadau porthiant gydymffurfio â'r amodau ar gyfer—
(a)hadau ardystiedig (pob rhywogaeth ac eithrio pys maes a ffa maes); neu
(b)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (pys maes a ffa maes).
(10) Rhaid i hadau ŷd gydymffurfio â'r amodau ar gyfer—
(a)hadau ardystiedig (rhyg, indrawn a hybridiau o geirch a cheirch coch, haidd, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen a rhygwenith ac eithrio amrywogaethau hunanbeilliol); neu
(b)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth ceirch a cheirch coch, haidd, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen ac amrywogaethau hunanbeilliol o rygwenith, ac eithrio hybridiau ym mhob achos.
(11) Rhaid i hadau betys gydymffurfio â'r amodau ar gyfer hadau ardystiedig.
(12) Rhaid i hadau planhigion olew a ffibr gydymffurfio â'r amodau ar gyfer—
(a)hadau ardystiedig (pob rhywogaeth ac eithrio llin a had llin);
(b)hadau ardystiedig, ail a thrydedd genhedlaeth (llin a had llin).
(13) Rhaid labelu'r pecyn gyda label oren, y mae'n rhaid iddo gynnwys y geiriau “variety not yet officially listed; for tests and trials only” a phan fo'n gymwys “genetically modified variety” yn ychwanegol at y gofynion labelu eraill yn y Rheoliadau hyn.