- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
16.—(1) Yn achos hadau—
(a)sydd wedi eu cynhyrchu—
(i)yn uniongyrchol o hadau sylfaenol neu hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf, a ardystiwyd yn swyddogol naill ai mewn Aelod-wladwriaeth arall neu mewn trydedd wlad y caniatawyd cywerthedd iddi o dan y Gyfarwyddeb, mewn perthynas â'r hadau hynny, a bennir yn Atodlen 2 neu
(ii)drwy groesi hadau sylfaenol a ardystiwyd mewn Aelod-wladwriaeth gyda hadau sylfaenol a ardystiwyd mewn trydedd wlad o'r fath, a
(b)sydd wedi eu cynaeafu mewn Aelod-wladwriaeth arall,
gellir eu hardystio os yw'r hadau hynny wedi bod yn destun archwiliad maes ar gyfer y categori hwnnw o hadau, ac os yw archwiliad swyddogol wedi dangos bod yr amodau ar gyfer hadau o'r categori hwnnw wedi eu bodloni.
(2) Os yw'r hadau wedi eu cynhyrchu yn uniongyrchol o hadau a ardystiwyd yn swyddogol, o genedlaethau cynharach na hadau sylfaenol, ceir eu hardystio fel hadau sylfaenol os yw'r amodau a bennir ar gyfer y categori hwnnw wedi eu bodloni.
(3) Rhaid i'r hadau gael eu labelu gyda label llwyd sy'n dwyn yr wybodaeth ganlynol—
(a)yr awdurdod sy'n gyfrifol am yr archwiliad maes ac enw neu flaenlythrennau'r Aelod-wladwriaeth;
(b)y rhywogaeth, a ddynodir gan ei henw botanegol o leiaf, y caniateir ei roi yn ei ffurf dalfyredig heb gynnwys enwau'r awdurdodau;
(c)yr amrywogaeth (yn achos llinellau mewnfrid a hybridiau a fwriedir yn unig fel cydrannau ar gyfer amrywogaethau hybrid, rhaid ychwanegu'r gair “component”);
(ch)y categori;
(d)yn achos amrywogaethau hybrid, y gair “hybrid”;
(dd)y pwysau net neu gros datganedig;
(e)y geiriau “seed not finally certified”.
(4) Rhaid i'r hadau fynd gyda dogfen swyddogol sy'n datgan—
(a)yr awdurdod sy'n dyroddi'r ddogfen;
(b)y rhywogaeth, a ddynodir gan ei henw botanegol o leiaf, y caniateir ei roi yn ei ffurf dalfyredig heb gynnwys enwau'r awdurdodau;
(c)yr amrywogaeth;
(ch)y categori;
(d)rhif cyfeirnod yr hadau a ddefnyddiwyd i hau'r cae ac enw'r wlad a ardystiodd yr hadau;
(dd)rhif cyfeirnod y lot hadau neu'r cae;
(e)yr arwynebedd a driniwyd i gynhyrchu'r lot hadau a gwmpesir gan y ddogfen;
(f)y maint o hadau a gynaeafwyd a'r nifer o becynnau;
(ff)y nifer o genedlaethau ar ôl hadau sylfaenol, yn achos hadau ardystiedig;
(g)datganiad yn tystio bod yr amodau yr oedd yn ofynnol eu bodloni gan y cnwd y daeth yr hadau ohono wedi eu bodloni;
(ng)pan fo'n briodol, canlyniadau dadansoddiad hadau rhagarweiniol.
17.—(1) Ceir ardystio hadau a gynaeafwyd mewn trydedd wlad—
(a)os cynhyrchwyd hwy'n uniongyrchol—
(i)o hadau sylfaenol neu hadau ardystiedig o'r genhedlaeth gyntaf, a ardystiwyd naill ai mewn Aelod-wladwriaeth neu mewn trydedd wlad y caniatawyd cywerthedd iddi o dan Benderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gyflawnir mewn trydydd gwledydd, ar gnydau sy'n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd(1); neu
(ii)drwy groesi hadau sylfaenol a ardystiwyd yn swyddogol mewn Aelod-wladwriaeth gyda hadau sylfaenol a ardystiwyd mewn trydedd wlad o'r fath;
(b)os buont yn destun archwiliad maes yn unol â Phenderfyniad y Cyngor 2003/17/EC;
(c)os dangosodd archwiliad bod yr amodau ar gyfer hadau o'r categori hwnnw wedi eu bodloni;
(ch)os ydynt yn dod ynghyd â thystysgrif gan yr awdurdod cymwys yng ngwlad eu tarddiad, sy'n ardystio'u statws.
(2) Rhaid i'r label fod yn llwyd.
18. Caiff Gweinidogion Cymru roi estyniad marchnata sy'n caniatáu cyfnod estynedig ar gyfer ardystio a marchnata hadau o amrywogaeth sydd wedi ei dileu o Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin.
OJ Rhif L 8, 14.1.2003, t. 10, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Cyngor 2007/780/EC (OJ Rhif L 314, 1.12.2007, t. 20).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: