Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 2499 (Cy.274) (C.98)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012

Gwnaed

1 Hydref 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 120(2) a (3) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012(1).

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu Rhyddidau 2012.

Y diwrnod penodedig

2.—(1Daw darpariaethau'r Ddeddf a restrir ym mharagraff (2) isod i rym ar 1 Hydref 2012.

(2Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod yw—

(a)Adran 56; a

(b)Atodlen 4.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru.

1 Hydref 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Cafodd Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 (“y Ddeddf”) y Cydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2012.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau ar 1 Hydref 2012 i adennill taliadau parcio heb eu talu mewn cysylltiad â pharcio cerbyd ar dir perthnasol yng Nghymru.

Diffinnir “relevant land” yn Atodlen 4 i'r Ddeddf fel tir ar wahân i briffordd sydd i'w chynnal a'i chadw ar draul y cyhoedd, man parcio a ddarperir a/neu a reolir gan awdurdod traffig neu unrhyw dir arall nad yw'n ddarostyngedig i reolaeth barcio statudol.