Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2012.

(2Dim ond i awdurdodau gwella Cymreig sy'n gynghorau sir ac sy'n gynghorau bwrdeistref sirol (“awdurdodau lleol”) y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys.

(3Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Tachwedd 2012 ac mae'n gymwys mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2013 a'r blynyddoedd ariannol dilynol.

(4Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dangosyddion perfformiad

2.  Pennir y dangosyddion perfformiad ym mhob Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddiben adran 8(1) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1) mewn perthynas â'r swyddogaethau y rhoddir manylion amdanynt yn y briod Atodlen.

Dirymu ac Arbed

3.  Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad a Safonau Perfformiad) (Cymru) 2010(1) wedi ei ddirymu ond mae'n parhau i fod yn effeithiol i'r graddau y mae'n gymwys i'r Dangosyddion Perfformiad a'r Safonau Perfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

2 Hydref 2012