2012 Rhif 2539 (Cy.278)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2012

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 8(1)(a), 8(2) a 50(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 20091, a hwythau wedi ymgynghori â'r personau hynny y mae adran 8(3) o'r Mesur hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymgynghori â hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.