xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 2571 (Cy.282)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgod Môr (Ardaloedd Môr Penodedig) (Gwahardd Dull Pysgota) (Cymru) 2012

Gwnaed

10 Hydref 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Hydref 2012

Yn dod i rym

1 Tachwedd 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 5(1) ac (1B), 5A(1) ac 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1) ac sydd bellach wedi eu breinio(2) ynddynt.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgod Môr (Ardaloedd Môr Penodedig) (Gwahardd Dull Pysgota) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 1 Tachwedd 2012.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardaloedd môr penodedig” (“specified sea areas”) yw'r ardaloedd a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;

ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred wedi ei roi mewn graddau, munudau a ffracsiynau degol o funud ar System Geodetig y Byd 1984;

mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(3); ac

ystyr “offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod” (“bottom towed fishing gear”) yw unrhyw offer neu gyfarpar pysgota a all gael eu llusgo, eu tynnu neu eu symud ar hyd gwely'r môr gan gynnwys unrhyw lusgrwyd bysgota, treillrwyd drawst neu dreillrwyd estyllod, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.

Gwaharddiad

3.—(1Mae pysgota am bysgod môr o fewn yr ardaloedd môr penodedig gan ddefnyddio offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod drwy hyn wedi ei wahardd.

(2Pan fo unrhyw gwch pysgota o fewn yr ardaloedd môr penodedig rhaid i'r holl offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod fod wedi eu stowio a'u diogelu y tu mewn i'r cwch.

Dirymu a Diwygiad Canlyniadol

4.—(1Mae Is-ddeddf 21 (Gwahardd Offer Pysgota sy'n Llusgo'r Gwaelod)(4) cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru(5) wedi ei dirymu o ran Cymru.

(2Yn y Tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010(6) mae'r rhes sy'n ymwneud ag Is-ddeddf 21 wedi ei dileu.

Alun Davies

Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru

10 Hydref 2012

Erthygl 2

YR ATODLENYR ARDALOEDD MÔR PENODEDIG

Mae'r Ardaloedd Môr Penodedig fel a ganlyn:

(i)Yr ardal sydd wedi ei hamgáu rhwng y morlin adeg penllanw cymedrig y gorllanw a llinell a dynnir rhwng y cyfesurynnau a ganlyn ac y mae'r morlin hwnnw a'r llinell honno yn ffin iddi:

(ii)Yr ardal sydd wedi ei hamgáu gan linell a dynnir rhwng y cyfesurynnau a ganlyn ac y mae'r llinell honno yn ffin iddi:

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gwahardd pysgota am bysgod môr â chychod pysgota sy'n defnyddio offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod o fewn yr ardaloedd môr penodedig.

Mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn hefyd yn dirymu ac yn disodli Is-ddeddf 21 cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru (“y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr”).

Diddymwyd y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr, o ran Cymru, ar 1 Ebrill 2010 pan ddiddymwyd Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966, o ran Cymru, gan adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Er y dyddiad hwnnw, mae Is-ddeddf 21 y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr wedi cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol yn rhinwedd erthygl 13(3) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 ac Atodlen 4 iddo.

Gwaharddodd Is-ddeddf 21 y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr y defnydd o offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod oddi ar unrhyw gwch pysgota o fewn un o'r ardaloedd môr penodedig y rhoddir manylion amdanynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwahardd pysgota am bysgod môr o fewn yr ardaloedd môr penodedig gan ddefnyddio offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod ac yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo unrhyw gwch pysgota o fewn yr ardaloedd môr penodedig, fod rhaid i'r holl offer pysgota sy'n llusgo'r gwaelod fod wedi eu stowio a'u diogelu y tu mewn i'r cwch.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn dirymu Is-ddeddf 21 y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr ac yn gwneud y diwygiad canlyniadol angenrheidiol i Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010.

Gwnaed Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn ac mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y swyddogaethau a oedd yn arferadwy o dan adran 5 o Ddeddf 1967 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny a oedd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

O 1 Ebrill 2010, mae Is-ddeddf 21 cyn Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru yn cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol o ran yr un ardal o Gymru â'r ardal yr oedd yr is-ddeddf honno yn gymwys iddi yn wreiddiol yn rhinwedd erthygl 13(3) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C.42)) ac Atodlen 4 iddo.

(5)

Diddymwyd Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru, o ran Cymru, ar 1 Ebrill 2010 pan ddygwyd adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23) i rym gan erthygl 3 o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C.42)), â'r effaith o ddiddymu Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p.38).