Gorchymyn Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2012
Agraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle’r OS sy’n dwyn yr un rhif ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2012 Rhif 2676 (Cy.290)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2012
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 57(2) a 58(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721, adroddiad dyddiedig Mai 2012 ar ei adolygiad o'r trefniadau etholiadol o fewn sir Ynys Môn, a'i gynigion ar gyfer eu newid2.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy3.