RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwynI281

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 20 Tachwedd 2012.

Annotations:
Commencement Information
I28

Rhl. 1 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

DehongliI182

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

  • ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ranbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19846, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y rhanbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 84/500/EEC” (“Directive 84/500/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd7;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2007/42/EC” (“Directive 2007/42/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC ynghylch deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd8;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • mae'r term “paratoi” (“preparation”, “prepare”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar driniaeth neu broses, ac mae i'w ddehongli'n unol â hynny;

  • F17“ystyr “Rheoliad 10/2011” (“Regulation 10/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd;

  • ystyr “Rheoliad 450/2009” (“Regulation 450/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd10;

  • ystyr “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd11;

  • ystyr “Rheoliad 1895/2005” (“Regulation 1895/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar y cyfyngiad ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd12;

  • ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC13;

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson, p'un ai yn swyddog i'r awdurdod o dan sylw ai peidio, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi o dan reoliad 20, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

2

Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009 neu Reoliad 10/2011 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.

3

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2023/2006 neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2007/42/EC neu i Reoliad 10/2011 yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Y CwmpasI83

Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y deunyddiau a'r eitemau hynny a bennir ym mharagraff (3) Erthygl 1 (diben a phwnc) o Reoliad 1935/2004.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 3 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 2Gofynion Cyffredinol ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 1935/2004I304

1

Ni chaiff unrhyw berson, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd, roi ar y farchnad na defnyddio unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(1) (gofynion cyffredinol) neu Erthygl 4(1), (2), (3) neu (4) (gofynion arbennig ar gyfer deunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus).

2

Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(2), 4(5) neu (6) neu 15(1), (3), (4), (7) neu (8) fel y'u darllenir gydag Erthygl 15(2) (labelu).

3

Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2) neu Erthygl 11(4) neu (5) (awdurdodi Cymunedol) neu 17(2) (y gallu i olrhain) yn euog o drosedd.

4

Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 1935/2004.

Annotations:
Commencement Information
I30

Rhl. 4 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Trosedd mynd yn groes i Erthygl 4 yn Rheoliad 2023/2006I235

Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 4 (cydymffurfio ag arfer gweithgynhyrchu da) o Reoliad 2023/2006 yn euog o drosedd.

Annotations:
Commencement Information
I23

Rhl. 5 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004 a Rheoliad 2023/2006I36

1

Y cyrff canlynol yw'r rhai sydd wedi eu dynodi'n awdurdodau cymwys at ddibenion y darpariaethau yn Rheoliad 1935/2004 a bennir isod—

a

o ran Erthyglau 9 (cais am awdurdodi sylwedd newydd) a 13 (awdurdodau cymwys Aelod-wladwriaethau), yr Asiantaeth Safonau Bwyd; a

b

o ran Erthyglau 16(1) (datganiad o gydymffurfedd) a 17(2) (y gallu i olrhain), yr Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

2

Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(2) (system reoli ansawdd) a 7(3) (dogfennaeth) o Reoliad 2023/2006 yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 6 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 3Y Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau Gweithredol a Deallus

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 450/2009I127

1

Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn Erthygl 14 (dod i rym a chymhwyso) o Reoliad 450/2009, bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem sy'n weithredol neu'n ddeallus ac nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 4 o'r Rheoliad hwnnw yn euog o drosedd.

F142

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 450/2009I58

Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 13 o Reoliad 450/2009 yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 8 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 4Y gofynion ar gyfer Eitemau Ceramig

Dehongli'r Rhan honI139

Yn y Rhan hon—

a

ystyr “eitem geramig” (“ceramic article”) yw eitem y mae Rheoliad 1935/2004 yn gymwys iddi yn rhinwedd ei Erthygl 1(2) fel y'i darllenir gydag 1(3) a honno'n eitem—

i

a weithgynhyrchwyd o gymysgedd o ddeunyddiau anorganig gyda chynnwys cleiog neu silicad uchel yn gyffredinol y mae'n bosibl bod meintiau bach o ddeunyddiau organig wedi eu hychwanegu atynt,

ii

sy'n cael ei siapio'n gyntaf a bod y siâp a geir drwy hyn wedi ei osod yn barhaol drwy ei thanio, a

iii

y gellid ei gwydro, ei henamlo a/neu ei haddurno; a

b

mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno o Gyfarwyddeb 84/500/EEC neu'r Atodiad hwnnw iddi.

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 9 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Terfynau ar gyfer plwm a chadmiwm a datganiad o gydymffurfeddI610

1

Rhaid i'r meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig beidio â mynd dros y terfynau a osodir yn Atodlen 2(4) fel y'i darllenir gydag Erthygl 2(3) a (5).

2

Oni ddangosir nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm neu gadmiwm, mae cydymffurfedd â pharagraff (1) i'w benderfynu drwy gynnal profion a thrwy ddadansoddi yn unol ag Atodiadau I a II.

3

Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad eitem geramig nad yw'n cydymffurfio â gofynion paragraff (1) fel y'i darllenir gyda pharagraff (2).

4

Rhaid i berson sy'n rhoi ar y farchnad eitem geramig na ddaeth hyd yn hyn i gysylltiad â bwyd ddarparu datganiad ysgrifenedig sy'n cydymffurfio â pharagraff (5) i fynd gyda'r eitem yn y cyfnodau marchnata hyd at a chan gynnwys y cyfnod manwerthu.

5

Rhaid i'r datganiad gael ei ddyroddi gan y gweithgynhyrchydd neu gan berson sydd wedi ymsefydlu yn yr UE ac a roddodd yr eitem geramig ar y farchnad a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a osodir yn Atodiad III.

6

Rhaid i berson sy'n gweithgynhyrchu neu sydd, wrth gynnal busnes, yn mewnforio eitem geramig i'r UE drefnu, pan ofynnir iddo wneud hynny, fod dogfennaeth briodol ar gael i swyddog awdurdodedig sy'n dangos cydymffurfedd â gofynion paragraff (1), gan gynnwys—

a

canlyniadau'r dadansoddi a wnaed;

b

amodau'r prawf; ac

c

enw a chyfeiriad y labordy a gyflawnodd y gwaith profi.

7

Nid yw paragraffau (4), (5) a (6) yn gymwys o ran eitem geramig sy'n ail law.

8

Nid yw'r ddogfennaeth a bennwyd ym mharagraff (6)(a), (b) ac (c) yn ofynnol pan fo tystiolaeth ddogfennol yn cael ei darparu i ddangos nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm na chadmiwm.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 10 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 5Y Gofynion ar gyfer Caen Cellwlos Atgynyrchiedig

Dehongli'r Rhan honI2211

1

Yn y Rhan hon—

a

ystyr “caen cellwlos atgynyrchiedig” (“regenerated cellulose film”) yw deunydd haenen denau a gafwyd o gellwlos a goethwyd sy'n deillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gydag ychwanegiad o sylweddau addas neu beidio, naill ai yn y màs neu ar un arwyneb neu'r ddau arwyneb, ond nad yw'n cynnwys casinau synthetig o gellwlos atgynyrchiedig;

b

ystyr “CCAH” (“URCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen;

c

ystyr “CCAG” (“CRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sy'n deillio o gellwlos; a

d

ystyr “CCAP” (“PRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sydd wedi ei chyfansoddi o blastigion.

2

Mae'r Rhan hon yn gymwys i gaen cellwlos atgynyrchiedig—

a

sydd ynddo'i hun yn ffurfio cynnyrch gorffenedig; neu

b

sy'n rhan o gynnyrch gorffenedig sy'n cynnwys deunyddiau eraill,

ac y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, neu sydd, drwy gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, yn dod i gysylltiad â bwyd.

3

Ac eithrio yn rheoliad 12(3), mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw i Gyfarwyddeb 2007/42/EC.

Annotations:
Commencement Information
I22

Rhl. 11 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Rheolaethau a therfynauI1412

1

Caniateir i CCAH ac CCAG gael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn Atodiad II (rhestr o'r sylweddau a awdurdodwyd ar gyfer gweithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig) yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a nodir yn yr Atodiad hwnnw ond, fel rhanddirymiad, caniateir i sylweddau nad ydynt wedi eu rhestru yn Atodiad II gael eu defnyddio pan fo'r sylweddau hynny'n cael eu defnyddio naill ai—

a

fel lliwiau a phigmentau; neu

b

fel adlynion,

ar yr amod nad oes unrhyw ôl sy'n ganfyddadwy, drwy ddull a ddilyswyd, i ddangos bod y sylweddau wedi ymfudo i mewn i fwydydd neu arnynt.

2

Caniateir i CCAP gael ei weithgynhyrchu, cyn ei araenu, gan ddefnyddio'r sylweddau neu grwpiau o sylweddau a restrir yn y rhan gyntaf o Atodiad II yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a nodir yn y rhan honno.

3

Caniateir i'r araen sydd i'w rhoi ar CCAP gael ei weithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn Atodiad I i Reoliad 10/2011 yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau yn yr Atodiad hwnnw.

4

Rhaid i ddeunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o CCAP gydymffurfio ag Erthygl 12 (terfyn ymfudo cyffredinol) fel y'i darllenir gydag Erthygl 17 (mynegiad o ganlyniadau'r profion ymfudo) ac Erthygl 18 (y rheolau ar gyfer asesu cydymffurfedd â'r terfynau ymfudo) o Reoliad 10/2011.

5

Rhaid i arwynebau printiedig caen cellwlos atgynyrchiedig beidio â dod i gysylltiad â bwydydd.

6

Yn ystod unrhyw gyfnod marchnata heblaw'r cyfnod manwerthu, rhaid i unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig, nad yw'n amlwg wedi ei fwriadu neu wedi ei bwriadu o ran ei natur i ddod i gysylltiad â bwyd, ddod gyda datganiad ysgrifenedig sydd yn ardystio ei fod neu ei bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys iddo neu iddi.

7

Pan fo amodau arbennig o ran defnydd wedi eu nodi, rhaid i'r deunydd neu'r eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig gael ei labelu'n unol â hynny.

8

Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig a weithgynhyrchwyd yn groes i ofynion paragraffau (1) i (4), neu sy'n methu â chydymffurfio â pharagraffau (5)F13... neu (7).

RHAN 6Y Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau Plastig

Dehongli Rhan 6 F16ac Atodlen 1I1113

Yn y Rhan hon ac yn F11Atodlen 1 mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 10/2011 neu'r Atodiad hwnnw iddo.

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/2011I2614

1

Yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a nodir yn Erthygl 22(4) a (5) ac Erthygl 2314, bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad ddeunydd neu eitem blastig nad yw'n cydymffurfio â gofyniad yn Rheoliad 10/2011 a bennir yng ngholofn 1 F5o Atodlen 1 yn euog o drosedd.

F152

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 10/2011F3I1615

Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau 8 ac 16(1) o Reoliad 10/2011 yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

RHAN 7Y gofynion ar gyfer deilliadau epocsi penodol

Cyfyngiadau ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol (BADGE, BFDGE a NOGE)I2716

1

Yn y Rhan hon—

a

mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu'r Atodiad hwnnw yn Rheoliad 1895/2005; a

b

mae F7paragraff (2) yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (cwmpas)16.

2

Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) a (4) (darpariaethau trosiannol)17, ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad na defnyddio, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd—

a

unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 (gwahardd defnyddio BFDGE neu ei bresenoldeb) neu Erthygl 4 (gwahardd defnyddio NOGE neu ei bresenoldeb); neu

b

unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â'r cyfyngiadau sydd yn Erthygl 2 (BADGE) fel y'i darllenir gydag Atodiad I (y terfyn ymfudo penodol ar gyfer BADGE a rhai o'i ddeilliadau).

F123

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

4

Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (2) F1...yn euog o drosedd.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1895/2005I217

Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(4) yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 17 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 8Y Gofynion ar gyfer Finyl Clorid

I2118

1

O ran deunyddiau ac eitemau, ac eithrio'r deunyddiau ac eitemau hynny a reolir gan Reoliad 10/2011, a weithgynhyrchir gan bolymerau neu gopolymerau finyl clorid—

a

rhaid iddynt beidio â chynnwys monomer finyl clorid y mae ei faint yn fwy nag 1 miligram y cilogram o'r deunydd neu'r eitem; a

b

rhaid iddynt gael eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw faint o finyl clorid sy'n fwy na 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd.

2

Ni chaiff unrhyw berson—

a

rhoi ar y farchnad; neu

b

defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,

unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â pharagraff (1).

Annotations:
Commencement Information
I21

Rhl. 18 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 9Gorfodi

Troseddau a chosbauI2519

1

Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 10(3) F8..., 12(8) neu 18(2) yn euog o drosedd.

2

Mae unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi ar waith Reoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009, Rheoliad 10/2011 neu'r Rheoliadau hyn yn euog o drosedd.

F23

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

4

Mae unrhyw berson sydd, gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (3), yn ddi-hid neu gan wybod hynny yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys yn euog o drosedd.

F45

Mae person sy’n euog o drosedd yn agored—

a

yn achos trosedd a grëir gan baragraff (1) neu (4) neu gan reoliad 4(3), 5, 7(1), 14(1), neu 16(4)—

i

o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu’r ddau, neu

ii

o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy; a

b

yn achos trosedd a grëir gan baragraff (2) neu (3), o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

6

Nid oes dim ym mharagraff (2) neu (3) sydd i'w ddehongli fel petai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny'n gallu peri iddo argyhuddo ei hun.

Gweithredu a gorfodiI2420

1

Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi—

a

Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 450/2009 a Rheoliad 10/2011; a

b

ac eithrio mewn perthynas â'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), y Rheoliadau hyn.

F92

Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau—

a

Erthyglau 16(1) a 17(2) o Reoliad 1935/2004;

b

Erthygl 13 o Reoliad 450/2009; ac

c

Erthygl 16(1) o Reoliad 10/2011.

3

Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a bennwyd yn rheoliad 5 a'r Rheoliadau hyn.

Troseddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau AlbanaiddI2021

1

Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un ohonynt, sef—

a

unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

b

unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth o'r fath,

bernir bod yr unigolyn hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r trosedd hwnnw ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

2

Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r trosedd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Annotations:
Commencement Information
I20

Rhl. 21 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Troseddau oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred trydydd partiI922

Pan fo trosedd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r trosedd; a chaniateir i berson gael ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r trosedd p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf ai peidio.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 22 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadauI2923

1

Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i dair blynedd fynd heibio ers cyflawni'r trosedd neu ar ôl i un flwyddyn fynd heibio ers i'r erlynydd ganfod y trosedd, p'un bynnag yw'r cynharaf.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i drosedd o dan reoliad F10... 19(2) neu (3).

Amddiffyniadau cyffredinolI1724

1

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am drosedd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r person a gyhuddir (“y cyhuddedig”) brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi bod y trosedd yn cael ei gyflawni ganddo neu gan berson a oedd o dan ei reolaeth.

2

Heb leihau effaith paragraff (1) yn gyffredinol, rhaid cymryd bod person sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan reoliad 4(3), 7(1), 14(1), 16(4) neu 19(1) ac nad oedd wedi mewnforio na pharatoi'r deunydd neu'r eitem yr honnir bod y trosedd wedi ei gyflawni mewn cysylltiad ag ef neu hi wedi cadarnhau'r amddiffyniad a ddarparwyd gan baragraff (1) os bydd gofynion paragraffau (3) neu (4) wedi eu bodloni.

3

Bydd gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os profir—

a

bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

b

naill ai—

i

bod y cyhuddedig wedi cyflawni pob gwiriad o'r fath, ar y deunydd neu'r eitem o dan sylw, a oedd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu

ii

ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r cyhuddedig ddibynnu ar wiriadau a wnaed gan y person a gyflenwodd y deunydd hwnnw neu'r eitem honno iddo; ac

c

nad oedd y cyhuddedig yn gwybod, ac nad oedd ganddo, adeg cyflawni'r trosedd, reswm dros amau y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

4

Mae gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os yw'r trosedd yn drosedd rhoi ar y farchnad ac os profir—

a

bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

b

nad oedd y weithred o roi ar y farchnad a ffurfiodd y trosedd wedi ei wneud o dan enw neu farc y cyhuddedig; ac

c

nad oedd y cyhuddedig yn gwybod ac na ellid yn rhesymol ddisgwyl iddo wybod adeg cyflawni'r trosedd y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

5

Os digwydd mewn unrhyw achos bod yr amddiffyniad a ddarperir gan y rheoliad hwn yn golygu honni bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y cyhuddedig yr hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, heb ganiatâd y llys, onid yw—

a

o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

b

pan fo'r cyhuddedig wedi ymddangos o'r blaen gerbron y llys mewn cysylltiad â'r trosedd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw,

wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi pa wybodaeth bynnag a oedd yn ei feddiant ar y pryd ar gyfer adnabod y person arall hwnnw neu fel cymorth i'w adnabod.

Annotations:
Commencement Information
I17

Rhl. 24 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Y weithdrefn pan fydd sampl i'w dadansoddiI1025

1

Rhaid i swyddog awdurdodedig sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf, ac sydd o'r farn y dylai gael ei dadansoddi, rannu'r sampl yn dair rhan.

2

Os cynwysyddion wedi eu selio yw cynnwys y sampl ac y byddai eu hagor, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn rhwystr i'w dadansoddi'n briodol, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl yn rhannau drwy roi'r cynwysyddion mewn tair lot, a rhaid i bob lot gael ei thrin fel pe bai'n rhan.

3

Rhaid i'r swyddog awdurdodedig—

a

gosod pob rhan, os bydd angen gwneud hynny, mewn cynhwysydd addas a'i selio;

b

marcio pob rhan neu bob cynhwysydd;

c

rhoi un rhan, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, i'r perchennog, a'i hysbysu mewn ysgrifen y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;

d

cyflwyno un rhan i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; ac

e

dal ei afael ar un rhan i'w chyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 26.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 25 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Dadansoddi eilaidd gan Gemegydd y LlywodraethI126

1

Pan fo sampl wedi ei chadw o dan reoliad 25(3)(e) a bod—

a

bwriad i achos cyfreithiol gael ei gychwyn neu iddo fod wedi ei gychwyn yn erbyn person am drosedd o dan y Rheoliadau hyn; a

b

yr erlyniad yn bwriadu dangos fel tystiolaeth ganlyniad y dadansoddiad a grybwyllwyd yn rheoliad 25,

mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

2

O ran y swyddog awdurdodedig—

a

caiff, o'i wirfodd ei hun; neu

b

rhaid iddo—

i

os bydd yr erlynydd (os person gwahanol i'r swyddog awdurdodedig yw hwnnw) yn gofyn iddo wneud hynny,

ii

os bydd y llys yn gorchymyn hynny, neu

iii

(yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y cyhuddedig yn gofyn iddo wneud hynny,

anfon y rhan o'r sampl y daliwyd gafael ynddi at Gemegydd y Llywodraeth i'w dadansoddi.

3

Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonwyd ato o dan baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif sy'n nodi canlyniadau'r dadansoddiad.

4

Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniadau'r dadansoddiad sy'n cael ei throsglwyddo gan Gemegydd y Llywodraeth fod wedi ei llofnodi ganddo ef neu ar ei ran, ond caiff unrhyw berson sydd o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif gynnal y dadansoddiad.

5

Yn union ar ôl i'r swyddog awdurdodedig gael tystysgrif ddadansoddi Cemegydd y Llywodraeth, rhaid iddo ddarparu copi ohoni i'r erlynydd (os person gwahanol i'r swyddog awdurdodedig yw hwnnw) ac i'r cyhuddedig.

6

Pan fo cais wedi ei wneud o dan baragraff (2)(b)(iii), caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad mewn ysgrifen i'r cyhuddedig yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i glirio rhan neu'r cyfan o ffioedd Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac os na fydd y cyhuddedig yn cytuno i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

7

Yn y rheoliad hwn mae “y cyhuddedig” (“the accused”) yn cynnwys person y mae swyddog awdurdodedig yn bwriadu cychwyn achos cyfreithiol yn ei erbyn.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 26 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r DdeddfF6I427

1

Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 at ddibenion—

a

galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

i

rheoliadau 10(4), 10(6) a 12(6);

ii

Erthygl 16 o Reoliad 1935/2004;

iii

Erthygl 5 o Reoliad 1895/2005;

iv

Erthyglau 12 a 13 o Reoliad 450/2009; a

v

ail frawddeg Erthygl 8, Erthygl 15 fel y’i darllenir gydag Atodiad IV, ac Erthygl 16 o Reoliad 10/2011; a

b

gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.

2

Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Rhan 2 o Atodlen 2 yn gymwys, gyda’r addasiadau (os oes rhai) a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.

3

Nid yw paragraffau (1) a (2) yn rhagfarnu cymhwyso’r Ddeddf i’r Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir ym mharagraff (1).

RHAN 10Cyffredinol ac atodol

Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990I1928

Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 199021, yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddynt)—

a

hepgorer enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 200922; a

b

yn lle enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 201023 rhodder enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I19

Rhl. 28 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Diwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996I1529

1

Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 199624 wedi eu diwygio'n unol â pharagraff (2).

2

Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle'r diffiniad o “ingredient”, rhodder y diffiniad a ganlyn—

  • “ingredient” means—

    1. a

      any substance, including any additive or food enzyme and any constituent of a compound ingredient, which is used in the preparation of a food and which is still present in the finished product, even if in altered form; or

    2. b

      any released active substance within the meaning of Article 3(f) of Commission Regulation (EC) No. 450/2009 on active and intelligent materials and articles intended to come into contact with food,

    and a “compound ingredient” is composed of two or more such substances;

3

Bydd paragraffau (1) a (2) yn dirwyn i ben ar 13 Rhagfyr 2014.

Annotations:
Commencement Information
I15

Rhl. 29 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

DirymuI730

Mae'r Rheoliadau canlynol wedi eu dirymu—

a

Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 200625;

b

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 200926;

c

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 201027;

d

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 201128.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 30 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Lesley GriffithsY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru