RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwyn1.

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 20 Tachwedd 2012.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Dehongli2.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ranbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19846, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y rhanbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

F1...

ystyr “Cyfarwyddeb 2007/42/EC” (“Directive 2007/42/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC ynghylch deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd8;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae'r term “paratoi” (“preparation”, “prepare”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar driniaeth neu broses, ac mae i'w ddehongli'n unol â hynny;

F2ystyr “Rheoliad 2018/213” (“Regulation 2018/213”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2018/213 ar y defnydd o bisffenol A mewn farneisiau ac araenau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 o ran y defnydd o’r sylwedd hwnnw mewn deunyddiau plastig sy’n dod i gysylltiad â bwyd;

F3“ystyr “Rheoliad 10/2011” (“Regulation 10/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd;

ystyr “Rheoliad 450/2009” (“Regulation 450/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd10;
ystyr “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd11;
ystyr “Rheoliad 1895/2005” (“Regulation 1895/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar y cyfyngiad ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd12;
ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC13;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson, p'un ai yn swyddog i'r awdurdod o dan sylw ai peidio, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi o dan reoliad 20, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2)

Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009 F4, Rheoliad 10/2011 neu Reoliad 2018/213 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.

(3)

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2023/2006 neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2007/42/EC neu i Reoliad 10/2011 yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Y Cwmpas3.

Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y deunyddiau a'r eitemau hynny a bennir ym mharagraff (3) Erthygl 1 (diben a phwnc) o Reoliad 1935/2004.

Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 3 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 2Gofynion Cyffredinol ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 1935/2004F54.

(1)

Ni chaiff unrhyw berson, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd, roi ar y farchnad na defnyddio unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(1) (gofynion cyffredinol) neu Erthygl 4(1), (2), (3) neu (4) (gofynion arbennig ar gyfer deunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus).

(2)

Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(2), 4(5) neu (6) neu 15(1), (3), (4), (7) neu (8) fel y'u darllenir gydag Erthygl 15(2) (labelu).

(3)

Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2) neu Erthygl 11(4) neu (5) (awdurdodi F5...) neu 17(2) (y gallu i olrhain) yn euog o drosedd.

(4)

Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 1935/2004.

Trosedd mynd yn groes i Erthygl 4 yn Rheoliad 2023/20065.

Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 4 (cydymffurfio ag arfer gweithgynhyrchu da) o Reoliad 2023/2006 yn euog o drosedd.

Annotations:
Commencement Information

I5Rhl. 5 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004 a Rheoliad 2023/20066.

(1)

Y cyrff canlynol yw'r rhai sydd wedi eu dynodi'n awdurdodau cymwys at ddibenion y darpariaethau yn Rheoliad 1935/2004 a bennir isod—

F6(a)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(b)

o ran Erthyglau F716 (datganiad o gydymffurfedd) a 17(2) (y gallu i olrhain), yr Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

(2)

Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(2) (system reoli ansawdd) a 7(3) (dogfennaeth) o Reoliad 2023/2006 yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal.

RHAN 3Y Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau Gweithredol a Deallus

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 450/20097.

(1)

Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn Erthygl 14 (dod i rym a chymhwyso) o Reoliad 450/2009, bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem sy'n weithredol neu'n ddeallus ac nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 4 o'r Rheoliad hwnnw yn euog o drosedd.

F8(2)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 450/20098.

Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 13 o Reoliad 450/2009 yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

Annotations:
Commencement Information

I8Rhl. 8 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

RHAN 4Y gofynion ar gyfer Eitemau Ceramig

Dehongli'r Rhan hon9.

Yn y Rhan hon—

(a)

ystyr “eitem geramig” (“ceramic article”) yw eitem y mae Rheoliad 1935/2004 yn gymwys iddi yn rhinwedd ei Erthygl 1(2) fel y'i darllenir gydag 1(3) a honno'n eitem—

(i)

a weithgynhyrchwyd o gymysgedd o ddeunyddiau anorganig gyda chynnwys cleiog neu silicad uchel yn gyffredinol y mae'n bosibl bod meintiau bach o ddeunyddiau organig wedi eu hychwanegu atynt,

(ii)

sy'n cael ei siapio'n gyntaf a bod y siâp a geir drwy hyn wedi ei osod yn barhaol drwy ei thanio, a

(iii)

y gellid ei gwydro, ei henamlo a/neu ei haddurno; a

F9(b)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Terfynau ar gyfer plwm a chadmiwm a datganiad o gydymffurfeddF1010.

(1)

Ni chaiff y meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig fynd dros y terfynau a nodir ym mharagraff (5) fel y’i darllenir gyda pharagraffau (4) a (6).

(2)

Oni ddangosir nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm neu gadmiwm, rhaid i’r meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig gael eu penderfynu drwy brawf, y pennir ei amodau yn Atodlen 3, gan ddefnyddio’r dull dadansoddi a ddisgrifir yn Atodlen 4.

(3)

Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad eitem geramig nad yw’n cydymffurfio â gofynion paragraff (1) fel y’i darllenir gyda pharagraff (2).

(4)

Pan fo eitem geramig yn llestr ag iddo glawr ceramig, rhaid i’r terfynau plwm neu gadmiwm (neu’r ddau) na chaniateir mynd drostynt (mg/dm2 neu mg/litr) fod yr un terfynau ag sy’n gymwys i’r llestr yn unig. Rhaid cynnal profion ar wahân ac o dan yr un amodau ar y llestr yn unig ac ar arwyneb mewnol y clawr. Rhaid i gyfanswm y ddwy lefel echdyniad a geir trwy’r modd hwn ar gyfer plwm neu gadmiwm gael ei gysylltu, fel y bo’n briodol, ag arwynebedd neu â chyfaint y llestr yn unig.

(5)

Mae eitem geramig i’w chydnabod fel un sy’n bodloni gofynion y Rheoliadau hyn sy’n ymwneud ag eitemau o’r fath os nad yw’r meintiau o blwm a/neu gadmiwm a echdynnir yn ystod y prawf a gynhelir o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3 ac Atodlen 4 yn mynd dros y terfynau a ganlyn—

Plwm (Pb)

Cadmiwm (Cd)

Categori 1: Eitemau na ellir eu llenwi ac eitemau y gellir eu llenwi, nad yw eu dyfnder mewnol, wrth fesur o’r pwynt isaf i’r plân llorweddol sy’n mynd drwy’r ymyl uchaf, yn fwy na 25 mm

0,8 mg/dm2

0,07 mg/dm2

Categori 2:

Pob eitem arall y gellir ei llenwi

4,0 mg/l

0,3 mg/l

Categori 3:

Offer coginio; llestri pecynnu a storio sy’n dal mwy na thri litr

1,5 mg/l

0,1 mg/l

(6)

Fodd bynnag, pan na fo eitem geramig yn mynd mwy na 50% dros y meintiau uchod, mae’r eitem honno i’w chydnabod er hynny fel un sy’n bodloni gofynion y Rheoliadau hyn sy’n ymwneud ag eitemau o’r fath os yw o leiaf dair eitem arall sy’n dwyn yr un siâp, dimensiynau, addurn a gwydr yn mynd drwy brawf a gynhelir o dan yr amodau a osodir yn Atodlen 3 ac Atodlen 4 ac nad yw meintiau cyfartalog y plwm a/neu’r cadmiwm a echdynnir o’r eitemau hynny yn mynd dros y terfynau a osodwyd, ac nad oes un o’r eitemau hynny yn mynd mwy na 50% dros y terfynau hynny.

F1110A.

(1)

Rhaid i berson sy’n rhoi ar y farchnad eitem geramig na ddaeth hyd yn hyn i gysylltiad â bwyd ddarparu datganiad ysgrifenedig F12sy’n cydymffurfio â pharagraff (2) i fynd gyda’r eitem yn y cyfnodau marchnata hyd at a chan gynnwys y cyfnod manwerthu.

(2)

Rhaid i’r datganiad gael ei ddyroddi gan y gweithgynhyrchydd neu gan werthwr F13ym Mhrydain Fawr a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a osodir yn Atodlen 5.

(3)

Rhaid i berson sy’n gweithgynhyrchu neu sydd, wrth gynnal busnes, yn mewnforio eitem geramig F14i Brydain Fawr drefnu, pan ofynnir iddo wneud hynny, fod dogfennaeth briodol ar gael i swyddog awdurdodedig er mwyn dangos bod yr eitem geramig yn cydymffurfio â’r terfynau ymfudo ar gyfer plwm a chadmiwm a nodir yn rheoliad 10, gan gynnwys—

(a)

canlyniadau’r dadansoddi a wnaed;

(b)

amodau’r prawf;

(c)

enw a chyfeiriad y labordy a gyflawnodd y gwaith profi.

(4)

Nid yw paragraffau (1), (2) a (3) yn gymwys o ran eitem geramig sy’n ail law.

(5)

Nid yw’r ddogfennaeth a bennwyd ym mharagraff (3)(a), (b) ac (c) yn ofynnol pan fo tystiolaeth ddogfennol yn cael ei darparu i ddangos nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm na chadmiwm.

RHAN 5Y Gofynion ar gyfer Caen Cellwlos Atgynyrchiedig

Dehongli'r Rhan hon11.

(1)

Yn y Rhan hon—

(a)

ystyr “caen cellwlos atgynyrchiedig” (“regenerated cellulose film”) yw deunydd haenen denau a gafwyd o gellwlos a goethwyd sy'n deillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gydag ychwanegiad o sylweddau addas neu beidio, naill ai yn y màs neu ar un arwyneb neu'r ddau arwyneb, ond nad yw'n cynnwys casinau synthetig o gellwlos atgynyrchiedig;

(b)

ystyr “CCAH” (“URCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen;

(c)

ystyr “CCAG” (“CRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sy'n deillio o gellwlos; a

(d)

ystyr “CCAP” (“PRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sydd wedi ei chyfansoddi o blastigion.

(2)

Mae'r Rhan hon yn gymwys i gaen cellwlos atgynyrchiedig—

(a)

sydd ynddo'i hun yn ffurfio cynnyrch gorffenedig; neu

(b)

sy'n rhan o gynnyrch gorffenedig sy'n cynnwys deunyddiau eraill,

ac y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, neu sydd, drwy gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, yn dod i gysylltiad â bwyd.

(3)

Ac eithrio yn rheoliad 12(3), mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw i Gyfarwyddeb 2007/42/EC.

Annotations:
Commencement Information

I11Rhl. 11 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Rheolaethau a therfynau12.

(1)

Caniateir i CCAH ac CCAG gael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn Atodiad II (rhestr o'r sylweddau a awdurdodwyd ar gyfer gweithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig) yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a nodir yn yr Atodiad hwnnw ond, fel rhanddirymiad, caniateir i sylweddau nad ydynt wedi eu rhestru yn Atodiad II gael eu defnyddio pan fo'r sylweddau hynny'n cael eu defnyddio naill ai—

(a)

fel lliwiau a phigmentau; neu

(b)

fel adlynion,

ar yr amod nad oes unrhyw ôl sy'n ganfyddadwy, drwy ddull a ddilyswyd, i ddangos bod y sylweddau wedi ymfudo i mewn i fwydydd neu arnynt.

(2)

Caniateir i CCAP gael ei weithgynhyrchu, cyn ei araenu, gan ddefnyddio'r sylweddau neu grwpiau o sylweddau a restrir yn y rhan gyntaf o Atodiad II yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a nodir yn y rhan honno.

(3)

Caniateir i'r araen sydd i'w rhoi ar CCAP gael ei weithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn Atodiad I i Reoliad 10/2011 yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau yn yr Atodiad hwnnw.

(4)

Rhaid i ddeunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o CCAP gydymffurfio ag Erthygl 12 (terfyn ymfudo cyffredinol) fel y'i darllenir gydag Erthygl 17 (mynegiad o ganlyniadau'r profion ymfudo) ac Erthygl 18 (y rheolau ar gyfer asesu cydymffurfedd â'r terfynau ymfudo) o Reoliad 10/2011.

(5)

Rhaid i arwynebau printiedig caen cellwlos atgynyrchiedig beidio â dod i gysylltiad â bwydydd.

(6)

Yn ystod unrhyw gyfnod marchnata heblaw'r cyfnod manwerthu, rhaid i unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig, nad yw'n amlwg wedi ei fwriadu neu wedi ei bwriadu o ran ei natur i ddod i gysylltiad â bwyd, ddod gyda datganiad ysgrifenedig sydd yn ardystio ei fod neu ei bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys iddo neu iddi.

(7)

Pan fo amodau arbennig o ran defnydd wedi eu nodi, rhaid i'r deunydd neu'r eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig gael ei labelu'n unol â hynny.

(8)

Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig a weithgynhyrchwyd yn groes i ofynion paragraffau (1) i (4), neu sy'n methu â chydymffurfio â pharagraffau (5)F15... neu (7).

RHAN 6Y Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau Plastig

Dehongli Rhan 6 F16ac Atodlen 113.

F17Ac eithrio yn rheoliad 14(1), mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon ac yn Atodlen 1 at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 10/2011 neu'r Atodiad hwnnw iddo.

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 10/201114.

(1)

Yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a nodir yn F18Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1282/2011, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1183/2012, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 202/2014, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/174, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2016/1416, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/752, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2018/79 F19, Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EU) 2018/831 ac Erthygl 6 o Reoliad 2018/213, , bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad ddeunydd neu eitem blastig nad yw'n cydymffurfio â gofyniad yn Rheoliad 10/2011 a bennir yng ngholofn 1 F20o Atodlen 1 yn euog o drosedd.

F21(2)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 10/2011F2215.

Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau 8 ac 16(1) o Reoliad 10/2011 yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

RHAN 7Y gofynion ar gyfer deilliadau epocsi penodol

Cyfyngiadau ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol (BADGE, BFDGE a NOGE)16.

(1)

Yn y Rhan hon—

(a)

mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu'r Atodiad hwnnw yn Rheoliad 1895/2005; a

(b)

mae F23paragraff (2) yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (cwmpas)16.

(2)

F24Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad na defnyddio, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd—

(a)

unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 (gwahardd defnyddio BFDGE neu ei bresenoldeb) neu Erthygl 4 (gwahardd defnyddio NOGE neu ei bresenoldeb); neu

(b)

unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â'r cyfyngiadau sydd yn Erthygl 2 (BADGE) fel y'i darllenir gydag Atodiad I (y terfyn ymfudo penodol ar gyfer BADGE a rhai o'i ddeilliadau).

F25(3)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)

Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (2) F26...yn euog o drosedd.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1895/200517.

Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(4) yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.

Annotations:
Commencement Information

I17Rhl. 17 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

F27RHAN 7AY gofynion ar gyfer bisffenol A mewn farneisiau ac araenau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd

Dehongli Rhan 7A17A.

Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 2018/213.

Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 2018/21317B.

Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol yn Erthygl 6, mae unrhyw berson sy’n rhoi ar y farchnad ddeunydd neu eitem sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 2 yn euog o drosedd.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 2018/21317C.

Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 4(3) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd a phob awdurdod bwyd yn ei ardal.

RHAN 8Y Gofynion ar gyfer Finyl Clorid

18.

(1)

O ran deunyddiau ac eitemau, ac eithrio'r deunyddiau ac eitemau hynny a reolir gan Reoliad 10/2011, a weithgynhyrchir gan bolymerau neu gopolymerau finyl clorid—

(a)

rhaid iddynt beidio â chynnwys monomer finyl clorid y mae ei faint yn fwy nag 1 miligram y cilogram o'r deunydd neu'r eitem; a

(b)

rhaid iddynt gael eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw faint o finyl clorid sy'n fwy na 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd.

(2)

Ni chaiff unrhyw berson—

(a)

rhoi ar y farchnad; neu

(b)

defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,

unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â pharagraff (1).

F28(3)

Rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir i wirio a gydymffurfir â pharagraff (1) gydymffurfio â’r meini prawf a nodir ym mharagraffau (4), (5) a (6).

(4)

Mae lefel y finyl clorid mewn deunyddiau ac eitemau a lefel y finyl clorid a ryddheir gan ddeunyddiau ac eitemau i fwydydd yn cael eu penderfynu drwy gromatograffaeth gwedd nwy gan ddefnyddio’r dull ‘lle blaen’ (‘headspace’).

(5)

At ddibenion penderfynu’r finyl clorid a ryddheir gan ddeunyddiau ac eitemau i fwydydd, y terfyn canfod yw 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd.

(6)

Mae’r finyl clorid a ryddheir gan ddeunyddiau ac eitemau i fwydydd yn cael ei benderfynu mewn egwyddor yn y bwydydd. Pan ddangosir bod y penderfyniad yn amhosibl mewn bwydydd penodol am resymau technegol, caiff awdurdod bwyd ganiatáu penderfyniad drwy efelychwyr ar gyfer y bwydydd penodol hyn.

RHAN 9Gorfodi

Troseddau a chosbau19.

(1)

Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 10(3) F29..., 12(8) neu 18(2) yn euog o drosedd.

(2)

Mae unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi ar waith Reoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009, Rheoliad 10/2011 F30, Rheoliad 2018/213 neu'r Rheoliadau hyn yn euog o drosedd.

F31(3)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)

Mae unrhyw berson sydd, gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (3), yn ddi-hid neu gan wybod hynny yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys yn euog o drosedd.

F32(5)

Mae person sy’n euog o drosedd yn agored—

(a)

yn achos trosedd a grëir gan baragraff (1) neu (4) neu gan reoliad 4(3), 5, 7(1), 14(1), F3316(4) neu 17B

(i)

o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu’r ddau, neu

(ii)

o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy; a

(b)

yn achos trosedd a grëir gan baragraff (2) neu (3), o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(6)

Nid oes dim ym mharagraff (2) neu (3) sydd i'w ddehongli fel petai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny'n gallu peri iddo argyhuddo ei hun.

Gweithredu a gorfodi20.

(1)

Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi—

(a)

Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 450/2009 a Rheoliad 10/2011; a

(b)

ac eithrio mewn perthynas â'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), y Rheoliadau hyn.

F34(2)

Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau—

(a)

Erthyglau 16(1) a 17(2) o Reoliad 1935/2004;

(b)

Erthygl 13 o Reoliad 450/2009; ac

(c)

Erthygl 16(1) o Reoliad 10/2011.

(3)

Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a bennwyd yn rheoliad 5 a'r Rheoliadau hyn.

Troseddau gan gyrff corfforaethol neu bartneriaethau Albanaidd21.

(1)

Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un ohonynt, sef—

(a)

unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

(b)

unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth o'r fath,

bernir bod yr unigolyn hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r trosedd hwnnw ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2)

Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r trosedd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Annotations:
Commencement Information

I21Rhl. 21 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Troseddau oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred trydydd parti22.

Pan fo trosedd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r trosedd; a chaniateir i berson gael ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r trosedd p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf ai peidio.

Annotations:
Commencement Information

I22Rhl. 22 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau23.

(1)

Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i dair blynedd fynd heibio ers cyflawni'r trosedd neu ar ôl i un flwyddyn fynd heibio ers i'r erlynydd ganfod y trosedd, p'un bynnag yw'r cynharaf.

(2)

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i drosedd o dan reoliad F35... 19(2) neu (3).

Amddiffyniadau cyffredinol24.

(1)

Mewn unrhyw achos cyfreithiol am drosedd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r person a gyhuddir (“y cyhuddedig”) brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi bod y trosedd yn cael ei gyflawni ganddo neu gan berson a oedd o dan ei reolaeth.

(2)

Heb leihau effaith paragraff (1) yn gyffredinol, rhaid cymryd bod person sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan reoliad 4(3), 7(1), 14(1), 16(4) F36, 17B neu 19(1) ac nad oedd wedi mewnforio na pharatoi'r deunydd neu'r eitem yr honnir bod y trosedd wedi ei gyflawni mewn cysylltiad ag ef neu hi wedi cadarnhau'r amddiffyniad a ddarparwyd gan baragraff (1) os bydd gofynion paragraffau (3) neu (4) wedi eu bodloni.

(3)

Bydd gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os profir—

(a)

bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b)

naill ai—

(i)

bod y cyhuddedig wedi cyflawni pob gwiriad o'r fath, ar y deunydd neu'r eitem o dan sylw, a oedd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu

(ii)

ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r cyhuddedig ddibynnu ar wiriadau a wnaed gan y person a gyflenwodd y deunydd hwnnw neu'r eitem honno iddo; ac

(c)

nad oedd y cyhuddedig yn gwybod, ac nad oedd ganddo, adeg cyflawni'r trosedd, reswm dros amau y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(4)

Mae gofynion y paragraff hwn wedi eu bodloni os yw'r trosedd yn drosedd rhoi ar y farchnad ac os profir—

(a)

bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall nad oedd o dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;

(b)

nad oedd y weithred o roi ar y farchnad a ffurfiodd y trosedd wedi ei wneud o dan enw neu farc y cyhuddedig; ac

(c)

nad oedd y cyhuddedig yn gwybod ac na ellid yn rhesymol ddisgwyl iddo wybod adeg cyflawni'r trosedd y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(5)

Os digwydd mewn unrhyw achos bod yr amddiffyniad a ddarperir gan y rheoliad hwn yn golygu honni bod y trosedd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu oherwydd dibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y cyhuddedig yr hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, heb ganiatâd y llys, onid yw—

(a)

o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)

pan fo'r cyhuddedig wedi ymddangos o'r blaen gerbron y llys mewn cysylltiad â'r trosedd honedig, o fewn un mis i'r ymddangosiad cyntaf hwnnw,

wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi pa wybodaeth bynnag a oedd yn ei feddiant ar y pryd ar gyfer adnabod y person arall hwnnw neu fel cymorth i'w adnabod.

Y weithdrefn pan fydd sampl i'w dadansoddi25.

(1)

Rhaid i swyddog awdurdodedig sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf, ac sydd o'r farn y dylai gael ei dadansoddi, rannu'r sampl yn dair rhan.

(2)

Os cynwysyddion wedi eu selio yw cynnwys y sampl ac y byddai eu hagor, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn rhwystr i'w dadansoddi'n briodol, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl yn rhannau drwy roi'r cynwysyddion mewn tair lot, a rhaid i bob lot gael ei thrin fel pe bai'n rhan.

(3)

Rhaid i'r swyddog awdurdodedig—

(a)

gosod pob rhan, os bydd angen gwneud hynny, mewn cynhwysydd addas a'i selio;

(b)

marcio pob rhan neu bob cynhwysydd;

(c)

rhoi un rhan, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, i'r perchennog, a'i hysbysu mewn ysgrifen y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;

(d)

cyflwyno un rhan i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; ac

(e)

dal ei afael ar un rhan i'w chyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 26.

Annotations:
Commencement Information

I25Rhl. 25 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Dadansoddi eilaidd gan Gemegydd y Llywodraeth26.

(1)

Pan fo sampl wedi ei chadw o dan reoliad 25(3)(e) a bod—

(a)

bwriad i achos cyfreithiol gael ei gychwyn neu iddo fod wedi ei gychwyn yn erbyn person am drosedd o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)

yr erlyniad yn bwriadu dangos fel tystiolaeth ganlyniad y dadansoddiad a grybwyllwyd yn rheoliad 25,

mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.

(2)

O ran y swyddog awdurdodedig—

(a)

caiff, o'i wirfodd ei hun; neu

(b)

rhaid iddo—

(i)

os bydd yr erlynydd (os person gwahanol i'r swyddog awdurdodedig yw hwnnw) yn gofyn iddo wneud hynny,

(ii)

os bydd y llys yn gorchymyn hynny, neu

(iii)

(yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y cyhuddedig yn gofyn iddo wneud hynny,

anfon y rhan o'r sampl y daliwyd gafael ynddi at Gemegydd y Llywodraeth i'w dadansoddi.

(3)

Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonwyd ato o dan baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif sy'n nodi canlyniadau'r dadansoddiad.

(4)

Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniadau'r dadansoddiad sy'n cael ei throsglwyddo gan Gemegydd y Llywodraeth fod wedi ei llofnodi ganddo ef neu ar ei ran, ond caiff unrhyw berson sydd o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif gynnal y dadansoddiad.

(5)

Yn union ar ôl i'r swyddog awdurdodedig gael tystysgrif ddadansoddi Cemegydd y Llywodraeth, rhaid iddo ddarparu copi ohoni i'r erlynydd (os person gwahanol i'r swyddog awdurdodedig yw hwnnw) ac i'r cyhuddedig.

(6)

Pan fo cais wedi ei wneud o dan baragraff (2)(b)(iii), caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad mewn ysgrifen i'r cyhuddedig yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i glirio rhan neu'r cyfan o ffioedd Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac os na fydd y cyhuddedig yn cytuno i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.

(7)

Yn y rheoliad hwn mae “y cyhuddedig” (“the accused”) yn cynnwys person y mae swyddog awdurdodedig yn bwriadu cychwyn achos cyfreithiol yn ei erbyn.

Annotations:
Commencement Information

I26Rhl. 26 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r DdeddfF3727.

(1)

Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 at ddibenion—

(a)

galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(i)

rheoliadau F3810A(1), 10A(3) a 12(6);

(ii)

Erthygl 16 o Reoliad 1935/2004;

(iii)

Erthygl 5 o Reoliad 1895/2005;

(iv)

Erthyglau 12 a 13 o Reoliad 450/2009; F39...

(v)

ail frawddeg Erthygl 8, Erthygl 15 fel y’i darllenir gydag Atodiad IV, ac Erthygl 16 o Reoliad 10/2011; a

F40(vi)

Erthygl 4 o Reoliad 2018/213; a

(b)

gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.

(2)

Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Rhan 2 o Atodlen 2 yn gymwys, gyda’r addasiadau (os oes rhai) a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.

(3)

Nid yw paragraffau (1) a (2) yn rhagfarnu cymhwyso’r Ddeddf i’r Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir ym mharagraff (1).

RHAN 10Cyffredinol ac atodol

Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990F4128.

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996F4229.

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Dirymu30.

Mae'r Rheoliadau canlynol wedi eu dirymu—

(a)

Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 200625;

(b)

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 200926;

(c)

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 201027;

(d)

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 201128.
Annotations:
Commencement Information

I30Rhl. 30 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru