2012 Rhif 2705 (Cy.291)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, fel y'u darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd4 neu i unrhyw Atodiad i'r offerynnau UE eraill a bennir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod yr egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.