Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu'r Cyfarwyddebau canlynol a gorfodi'r Rheoliadau UE canlynol—LL+C

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 78/142/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch deunyddiau ac eitemau sy'n cynnwys monomer finyl clorid ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L44, 15.2.1978, t.15) (“Cyfarwyddeb 78/142/EEC”);

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L277, 20.10.1984, t.12) (“Cyfarwyddeb 84/500/EEC”);

(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC ynghylch deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71) (“Cyfarwyddeb 2007/42/EC”);

(d)Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC (OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4) (“Rheoliad 1935/2004”);

(e)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar gyfyngu ar y defnydd o ddeilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28) (“Rheoliad 1895/2005”);

(f)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75) (“Rheoliad 2023/2006”);

(g)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3) (“Rheoliad 450/2009”); ac

(h)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L12, 15.1.2011, t.1) (“Rheoliad 10/2011”).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/481 (Cy.49)). Maent hefyd yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda rhai diwygiadau ddarpariaethau Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1704 (Cy.166)) a Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2288 (Cy.200)).LL+C

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod cyfeiriadau at offeryn UE penodedig neu at rannau penodedig ohono i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn neu rannau ohono fel y cânt eu diwygio o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(3)).LL+C

4.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddeunyddiau neu eitemau y tu allan i gwmpas Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 3). Y deunyddiau sy'n cael eu nodi yn y Rheoliad hwnnw fel rhai sydd y tu allan i'w gwmpas yw deunyddiau ac eitemau sy'n cael eu cyflenwi fel hynafolion, deunyddiau gorchuddio neu araenu sydd yn rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta gydag ef ac offer sefydlog cyhoeddus neu breifat ar gyfer cyflenwi dŵr.LL+C

5.  Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn drosedd i fynd yn groes i ofynion penodol yn Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 4) a Rheoliad 2023/2006 (rheoliad 5). Rheoliad 1935/2004 yw'r prif Reoliad fframwaith ar ddeunyddiau ac eitemau sydd mewn cysylltiad â bwyd.LL+C

6.  Mae Rhan 2 hefyd yn darparu ar gyfer dynodi'r awdurdodau cymwys at y gwahanol ddibenion sydd wedi eu nodi yn Rheoliadau 1935/2004 a 2023/2006 (rheoliad 6).LL+C

7.  Mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodedig yn Rheoliad 450/2009 (rheoliad 7) ac yn dynodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion y Rheoliad hwnnw (rheoliad 8).LL+C

8.  Mae Rhan 4 yn gweithredu Cyfarwyddeb 84/500/EEC, ac mae'r diffiniad o eitem geramig wedi ei nodi yn rheoliad 9. Mae'n darparu na chaiff unrhyw berson roi eitem geramig ar y farchnad nad yw'n bodloni'r manylebau a nodir yn y Gyfarwyddeb (rheoliad 10). Mae'r rheoliad hwn yn cynnwys yn ychwanegol ofynion sy'n ymwneud â phrawf dogfennol o gydymffurfedd sy'n gymwys i eitemau ceramig newydd ond nid i eitemau ceramig ail-law.LL+C

9.  Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn, sy'n gweithredu Cyfarwyddeb 2007/42/EC, yn cynnwys gofynion sy'n ymwneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig ac mae'n nodi'r mathau amrywiol o gaen y mae'r darpariaethau yn gymwys iddynt (rheoliad 11). Mae'r Rhan hon, yn rheoliad 12, yn cynnwys amodau sy'n ymwneud â'r sylweddau y caniateir eu defnyddio ar gyfer gweithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig (paragraffau (1) i (4)), yn pennu bod rhaid i wyneb printiedig y caen atgynyrchiedig beidio â dod i gysylltiad â bwyd (paragraff (5)) ac yn pennu gofynion penodol o ran dogfennaeth a labelu (paragraffau (6) a (7)).LL+C

10.  Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad 10/2011 ac yn nodi'r darpariaethau hynny yn Rheoliad yr UE y mae'n drosedd i fynd yn groes iddynt (rheoliad 14 a'r Atodlen). Mae'r awdurdodau cymwys, at ddibenion darpariaethau penodol yn Rheoliad 10/2011 wedi eu dynodi yn rheoliad 15.LL+C

11.  Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer parhau i orfodi Reoliad 1895/2005 sy'n cadw gwaharddiad ar y deilliadau epocsi BFDGE a NOGE a chyfyngu ar ddefnyddio BADGE (rheoliad 16). Mae'r awdurdodau cymwys at ddibenion y Rheoliad UE hwn wedi eu dynodi yn rheoliad 17.LL+C

12.  Mae Rhan 8 yn cadw'r rheolaethau ar ddefnyddio finyl clorid a sefydlwyd gan Gyfarwyddeb 78/142/EEC i'r graddau nad yw Rheoliad 10/2011 yn effeithio bellach ar y rheolaethau hynny (rheoliad 18).LL+C

13.  Mae Rhan 9 yn cynnwys darpariaethau gorfodi a darpariaethau cysylltiedig—LL+C

(a)sy'n rhoi cosb am fynd yn groes i'r Rheoliadau hyn neu am beri rhwystr i'r rhai sydd yn eu gorfodi (rheoliad 19);

(b)sy'n dynodi awdurdodau gorfodi ar gyfer y swyddogaethau amrywiol o dan y Rheoliadau (rheoliad 20);

(c)sy'n darparu bod modd i unigolion sy'n gyfrifol am weithredoedd corff corfforaethol neu bartneriaeth Albanaidd gael eu herlyn ar y cyd am droseddau a gyflawnwyd gan y corff hwnnw neu'r bartneriaeth honno (rheoliad 21);

(d) sy'n darparu ar gyfer erlyn person sydd yn peri i drosedd gael ei chyflawni gan berson arall, p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y troseddwr gwreiddiol ai peidio (rheoliad 22);

(e)sy'n pennu terfyn amser ar gyfer cychwyn erlyniad (rheoliad 23);

(f)sy'n darparu ar gyfer amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy yn erbyn trosedd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 24);

(g)sy'n pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth anfon sampl i'w dadansoddi (rheoliad 25);

(h)sy'n darparu ar gyfer dadansoddi sampl gyfeiriol gan Labordy Cemegydd y Llywodraeth (rheoliad 26); ac

(i)sy'n cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 27).

14.  Mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ac atodol—LL+C

(a)sy'n gwneud newidiadau canlyniadol i Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 (rheoliad 28);

(b)sy'n cadw diwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499) ac yn darparu bod y diwygiad hwnnw yn dod i ben ar ddyddiad pan fydd darpariaethau labelu bwyd yr UE, sy'n uniongyrchol gymwysadwy, yn cael effaith (rheoliad 29); ac

(c)sy'n darparu ar gyfer dirymu Rheoliadau penodedig (rheoliad 30).

15.  Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.LL+C