RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwynI11

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 20 Tachwedd 2012.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

DehongliI22

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

  • ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ranbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19846, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y rhanbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 84/500/EEC” (“Directive 84/500/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd7;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2007/42/EC” (“Directive 2007/42/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC ynghylch deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd8;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • mae'r term “paratoi” (“preparation”, “prepare”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar driniaeth neu broses, ac mae i'w ddehongli'n unol â hynny;

  • ystyr “Rheoliad 10/2011” (“Regulation 10/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd9;

  • ystyr “Rheoliad 450/2009” (“Regulation 450/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd10;

  • ystyr “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd11;

  • ystyr “Rheoliad 1895/2005” (“Regulation 1895/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar y cyfyngiad ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd12;

  • ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC13;

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson, p'un ai yn swyddog i'r awdurdod o dan sylw ai peidio, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi o dan reoliad 20, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

2

Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009 neu Reoliad 10/2011 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.

3

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2023/2006 neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2007/42/EC neu i Reoliad 10/2011 yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1

Y CwmpasI33

Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y deunyddiau a'r eitemau hynny a bennir ym mharagraff (3) Erthygl 1 (diben a phwnc) o Reoliad 1935/2004.