xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd, roi ar y farchnad na defnyddio unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(1) (gofynion cyffredinol) neu Erthygl 4(1), (2), (3) neu (4) (gofynion arbennig ar gyfer deunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus).
(2) Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 3(2), 4(5) neu (6) neu 15(1), (3), (4), (7) neu (8) fel y'u darllenir gydag Erthygl 15(2) (labelu).
(3) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2) neu Erthygl 11(4) neu (5) (awdurdodi F1...) neu 17(2) (y gallu i olrhain) yn euog o drosedd.
(4) Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno yn Rheoliad 1935/2004.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 4(3) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 (O.S. 2019/1046), rhlau. 1(3), 6(2); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 4 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1
5. Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 4 (cydymffurfio ag arfer gweithgynhyrchu da) o Reoliad 2023/2006 yn euog o drosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 5 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1
6.—(1) Y cyrff canlynol yw'r rhai sydd wedi eu dynodi'n awdurdodau cymwys at ddibenion y darpariaethau yn Rheoliad 1935/2004 a bennir isod—
F2(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(b)o ran Erthyglau [F316] (datganiad o gydymffurfedd) a 17(2) (y gallu i olrhain), yr Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.
(2) Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(2) (system reoli ansawdd) a 7(3) (dogfennaeth) o Reoliad 2023/2006 yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal.
Diwygiadau Testunol
F2Rhl. 6(1)(a) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 (O.S. 2019/1046), rhlau. 1(3), 6(3)(a); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F3Gair yn rhl. 6(1)(b) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019 (O.S. 2019/1046), rhlau. 1(3), 6(3)(b); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 6 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1