RHAN 3LL+CY Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau Gweithredol a Deallus
Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 450/2009LL+C
7.—(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn Erthygl 14 (dod i rym a chymhwyso) o Reoliad 450/2009, bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad unrhyw ddeunydd neu eitem sy'n weithredol neu'n ddeallus ac nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 4 o'r Rheoliad hwnnw yn euog o drosedd.
F1(2) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 7(2) wedi ei hepgor (14.9.2017) yn rhinwedd Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/832), rhlau. 1(3), 4
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 7 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1
Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 450/2009LL+C
8. Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 13 o Reoliad 450/2009 yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd, pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 8 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1