16.—(1) Yn y Rhan hon—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu'r Atodiad hwnnw yn Rheoliad 1895/2005; a
(b)mae paragraffau (2) a (3) yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (cwmpas)(1).
(2) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) a (4) (darpariaethau trosiannol)(2), ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad na defnyddio, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd—
(a)unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 (gwahardd defnyddio BFDGE neu ei bresenoldeb) neu Erthygl 4 (gwahardd defnyddio NOGE neu ei bresenoldeb); neu
(b)unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â'r cyfyngiadau sydd yn Erthygl 2 (BADGE) fel y'i darllenir gydag Atodiad I (y terfyn ymfudo penodol ar gyfer BADGE a rhai o'i ddeilliadau).
(3) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(3)(3), ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw ddeunydd nac eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 5 (datganiad ysgrifenedig)(4).
(4) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (2) neu (3) yn euog o drosedd.
17. Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(4) yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth.
Mae Erthygl 3 yn cynnwys eithriad sy'n ymwneud â rhai cynwysyddion a thanciau storio a phiblinellau sy'n perthyn iddynt.
Mae Erthygl 6(1) a (2) yn darparu ar gyfer y trefniadau trosiannol ar gyfer cymhwyso Erthyglau 2, 3 a 4 i ddeunyddiau ac eitemau penodedig; mae Erthygl 6(4) yn caniatáu marchnata deunyddiau ac erthyglau penodedig os caiff gofynion penodol o ran labelu eu bodloni.
Mae Erthygl 6(3) yn darparu ar gyfer y ddarpariaeth drosiannol sy'n ymwneud â chymhwyso Erthygl 5 i ddeunyddiau ac eitemau penodedig y daethpwyd â hwy i gysylltiad â bwyd cyn 1 Ionawr 2007.
Mae Erthygl 5 yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddeunydd ysgrifenedig penodedig fynd gyda deunyddiau ac eitemau sy'n cynnwys BADGE a'i ddeilliadau pan fyddant yn cael eu marchnata yn y cyfnodau cyn manwerthu.