F1RHAN 7AY gofynion ar gyfer bisffenol A mewn farneisiau ac araenau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd
Dehongli Rhan 7A17A.
Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy’n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 2018/213.
Troseddau mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig yn Rheoliad 2018/21317B.
Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol yn Erthygl 6, mae unrhyw berson sy’n rhoi ar y farchnad ddeunydd neu eitem sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 2 yn euog o drosedd.
Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 2018/21317C.
Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 4(3) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd a phob awdurdod bwyd yn ei ardal.