- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
10.—(1) Rhaid i'r meintiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig beidio â mynd dros y terfynau a osodir yn Atodlen 2(4) fel y'i darllenir gydag Erthygl 2(3) a (5).
(2) Oni ddangosir nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm neu gadmiwm, mae cydymffurfedd â pharagraff (1) i'w benderfynu drwy gynnal profion a thrwy ddadansoddi yn unol ag Atodiadau I a II.
(3) Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad eitem geramig nad yw'n cydymffurfio â gofynion paragraff (1) fel y'i darllenir gyda pharagraff (2).
(4) Rhaid i berson sy'n rhoi ar y farchnad eitem geramig na ddaeth hyd yn hyn i gysylltiad â bwyd ddarparu datganiad ysgrifenedig sy'n cydymffurfio â pharagraff (5) i fynd gyda'r eitem yn y cyfnodau marchnata hyd at a chan gynnwys y cyfnod manwerthu.
(5) Rhaid i'r datganiad gael ei ddyroddi gan y gweithgynhyrchydd neu gan berson sydd wedi ymsefydlu yn yr UE ac a roddodd yr eitem geramig ar y farchnad a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a osodir yn Atodiad III.
(6) Rhaid i berson sy'n gweithgynhyrchu neu sydd, wrth gynnal busnes, yn mewnforio eitem geramig i'r UE drefnu, pan ofynnir iddo wneud hynny, fod dogfennaeth briodol ar gael i swyddog awdurdodedig sy'n dangos cydymffurfedd â gofynion paragraff (1), gan gynnwys—
(a)canlyniadau'r dadansoddi a wnaed;
(b)amodau'r prawf; ac
(c)enw a chyfeiriad y labordy a gyflawnodd y gwaith profi.
(7) Nid yw paragraffau (4), (5) a (6) yn gymwys o ran eitem geramig sy'n ail law.
(8) Nid yw'r ddogfennaeth a bennwyd ym mharagraff (6)(a), (b) ac (c) yn ofynnol pan fo tystiolaeth ddogfennol yn cael ei darparu i ddangos nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig yn cynnwys plwm na chadmiwm.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: