RHAN 5Y Gofynion ar gyfer Caen Cellwlos Atgynyrchiedig
Dehongli'r Rhan hon11
1
Yn y Rhan hon—
a
ystyr “caen cellwlos atgynyrchiedig” (“regenerated cellulose film”) yw deunydd haenen denau a gafwyd o gellwlos a goethwyd sy'n deillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gydag ychwanegiad o sylweddau addas neu beidio, naill ai yn y màs neu ar un arwyneb neu'r ddau arwyneb, ond nad yw'n cynnwys casinau synthetig o gellwlos atgynyrchiedig;
b
ystyr “CCAH” (“URCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen;
c
ystyr “CCAG” (“CRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sy'n deillio o gellwlos; a
d
ystyr “CCAP” (“PRCF”) yw caen cellwlos atgynyrchiedig gydag araen sydd wedi ei chyfansoddi o blastigion.
2
Mae'r Rhan hon yn gymwys i gaen cellwlos atgynyrchiedig—
a
sydd ynddo'i hun yn ffurfio cynnyrch gorffenedig; neu
b
sy'n rhan o gynnyrch gorffenedig sy'n cynnwys deunyddiau eraill,
ac y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, neu sydd, drwy gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, yn dod i gysylltiad â bwyd.
3
Ac eithrio yn rheoliad 12(3), mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw i Gyfarwyddeb 2007/42/EC.