RHAN 5Y Gofynion ar gyfer Caen Cellwlos Atgynyrchiedig
Rheolaethau a therfynauI112
1
Caniateir i CCAH ac CCAG gael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn F3Atodlen 6 (rhestr o'r sylweddau a awdurdodwyd ar gyfer gweithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig) yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a nodir yn yr F4Atodlen honno ond, fel rhanddirymiad, caniateir i sylweddau nad ydynt wedi eu rhestru yn F3Atodlen 6 gael eu defnyddio pan fo'r sylweddau hynny'n cael eu defnyddio naill ai—
a
fel lliwiau a phigmentau; neu
b
fel adlynion,
ar yr amod nad oes unrhyw ôl sy'n ganfyddadwy, drwy ddull a ddilyswyd, i ddangos bod y sylweddau wedi ymfudo i mewn i fwydydd neu arnynt.
2
Caniateir i CCAP gael ei weithgynhyrchu, cyn ei araenu, gan ddefnyddio'r sylweddau neu grwpiau o sylweddau a restrir yn F1Nhabl 1 o Atodlen 6 ac yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau yn y Tabl hwnnw.
3
Caniateir i'r araen sydd i'w rhoi ar CCAP gael ei weithgynhyrchu gan ddefnyddio'r sylweddau neu'r grwpiau o sylweddau a restrir yn Atodiad I i Reoliad 10/2011 yn unig ac yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau yn yr Atodiad hwnnw.
4
Rhaid i ddeunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o CCAP gydymffurfio ag Erthygl 12 (terfyn ymfudo cyffredinol) fel y'i darllenir gydag Erthygl 17 (mynegiad o ganlyniadau'r profion ymfudo) ac Erthygl 18 (y rheolau ar gyfer asesu cydymffurfedd â'r terfynau ymfudo) o Reoliad 10/2011.
5
Rhaid i arwynebau printiedig caen cellwlos atgynyrchiedig beidio â dod i gysylltiad â bwydydd.
6
Yn ystod unrhyw gyfnod marchnata heblaw'r cyfnod manwerthu, rhaid i unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig, nad yw'n amlwg wedi ei fwriadu neu wedi ei bwriadu o ran ei natur i ddod i gysylltiad â bwyd, ddod gyda datganiad ysgrifenedig sydd yn ardystio ei fod neu ei bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys iddo neu iddi.
7
Pan fo amodau arbennig o ran defnydd wedi eu nodi, rhaid i'r deunydd neu'r eitem a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig gael ei labelu'n unol â hynny.
8
Ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig a weithgynhyrchwyd yn groes i ofynion paragraffau (1) i (4), neu sy'n methu â chydymffurfio â pharagraffau (5)F2... neu (7).