RHAN 7Y gofynion ar gyfer deilliadau epocsi penodol

Cyfyngiadau ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol (BADGE, BFDGE a NOGE)16.

(1)

Yn y Rhan hon—

(a)

mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu'r Atodiad hwnnw yn Rheoliad 1895/2005; a

(b)

mae paragraffau (2) a (3) yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (cwmpas)16.

(2)

Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) a (4) (darpariaethau trosiannol)17, ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad na defnyddio, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd—

(a)

unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 (gwahardd defnyddio BFDGE neu ei bresenoldeb) neu Erthygl 4 (gwahardd defnyddio NOGE neu ei bresenoldeb); neu

(b)

unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â'r cyfyngiadau sydd yn Erthygl 2 (BADGE) fel y'i darllenir gydag Atodiad I (y terfyn ymfudo penodol ar gyfer BADGE a rhai o'i ddeilliadau).

(3)

Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(3)18, ni chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad unrhyw ddeunydd nac eitem nad yw'n cydymffurfio â gofynion Erthygl 5 (datganiad ysgrifenedig)19.

(4)

Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (2) neu (3) yn euog o drosedd.