Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 16

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012, Adran 16. Help about Changes to Legislation

Cyfyngiadau ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol (BADGE, BFDGE a NOGE)LL+C

16.—(1Yn y Rhan hon—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu'r Atodiad hwnnw yn Rheoliad 1895/2005; a

(b)mae [F1paragraff (2)] yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (cwmpas)(1).

(2[F2Ni] chaiff unrhyw berson roi ar y farchnad na defnyddio, wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd—

(a)unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 (gwahardd defnyddio BFDGE neu ei bresenoldeb) neu Erthygl 4 (gwahardd defnyddio NOGE neu ei bresenoldeb); neu

(b)unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â'r cyfyngiadau sydd yn Erthygl 2 (BADGE) fel y'i darllenir gydag Atodiad I (y terfyn ymfudo penodol ar gyfer BADGE a rhai o'i ddeilliadau).

F3(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (2) F4...yn euog o drosedd.

(1)

Mae Erthygl 3 yn cynnwys eithriad sy'n ymwneud â rhai cynwysyddion a thanciau storio a phiblinellau sy'n perthyn iddynt.

Back to top

Options/Help