18.—(1) O ran deunyddiau ac eitemau, ac eithrio'r deunyddiau ac eitemau hynny a reolir gan Reoliad 10/2011, a weithgynhyrchir gan bolymerau neu gopolymerau finyl clorid—
(a)rhaid iddynt beidio â chynnwys monomer finyl clorid y mae ei faint yn fwy nag 1 miligram y cilogram o'r deunydd neu'r eitem; a
(b)rhaid iddynt gael eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw faint o finyl clorid sy'n fwy na 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd.
(2) Ni chaiff unrhyw berson—
(a)rhoi ar y farchnad; neu
(b)defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,
unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â pharagraff (1).