19.—(1) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 10(3) F1..., 12(8) neu 18(2) yn euog o drosedd.
(2) Mae unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi ar waith Reoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009, Rheoliad 10/2011 [F2, Rheoliad 2018/213] neu'r Rheoliadau hyn yn euog o drosedd.
F3(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4) Mae unrhyw berson sydd, gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (3), yn ddi-hid neu gan wybod hynny yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys yn euog o drosedd.
[F4(5) Mae person sy’n euog o drosedd yn agored—
(a)yn achos trosedd a grëir gan baragraff (1) neu (4) neu gan reoliad 4(3), 5, 7(1), 14(1), [F516(4) neu 17B] —
(i)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu’r ddau, neu
(ii)o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy; a
(b)yn achos trosedd a grëir gan baragraff (2) neu (3), o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.]
(6) Nid oes dim ym mharagraff (2) neu (3) sydd i'w ddehongli fel petai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny'n gallu peri iddo argyhuddo ei hun.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 19(1) wedi eu hepgor (14.9.2017) yn rhinwedd Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/832), rhlau. 1(3), 10(a)
F2Geiriau yn rhl. 19(2) wedi eu mewnosod (6.9.2018) gan Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2018 (O.S. 2018/913), rhlau. 1(3), 6(a)
F3Geiriau yn rhl. 19(3) wedi eu hepgor (14.9.2017) yn rhinwedd Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/832), rhlau. 1(3), 10(b)
F4Rhl. 19(5) wedi ei amnewid (14.9.2017) gan Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/832), rhlau. 1(3), 10(c)
F5Geiriau yn rhl. 19(5)(a) wedi eu hamnewid (6.9.2018) gan Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2018 (O.S. 2018/913), rhlau. 1(3), 6(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 19 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1