- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
19.—(1) Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 10(3) neu (4), 12(8) neu 18(2) yn euog o drosedd.
(2) Mae unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi ar waith Reoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009, Rheoliad 10/2011 neu'r Rheoliadau hyn yn euog o drosedd.
(3) Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall fod ar unrhyw berson angen rhesymol amdano neu amdani i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (2), neu sy'n methu â chydymffurfio â rheoliad 10(6) yn euog o drosedd.
(4) Mae unrhyw berson sydd, gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (3), yn ddi-hid neu gan wybod hynny yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys yn euog o drosedd.
(5) Mae unrhyw berson sy'n euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—
(a)yn achos trosedd a grëwyd gan baragraff (1) neu (4) neu reoliad 4(3), 5, 7(1), 14(1) neu 16(4)—
(i)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau, neu
(ii)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; a
(b)yn achos trosedd a grëwyd gan baragraff (2) neu (3) neu reoliad 7(2) neu 14(2), o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau.
(6) Nid oes dim ym mharagraff (2) neu (3) sydd i'w ddehongli fel petai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny'n gallu peri iddo argyhuddo ei hun.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: