Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

Troseddau a chosbauLL+C

19.—(1Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 10(3) F1..., 12(8) neu 18(2) yn euog o drosedd.

(2Mae unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi ar waith Reoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009, Rheoliad 10/2011 [F2, Rheoliad 2018/213] neu'r Rheoliadau hyn yn euog o drosedd.

F3(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Mae unrhyw berson sydd, gan ymhonni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (3), yn ddi-hid neu gan wybod hynny yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys yn euog o drosedd.

[F4(5) Mae person sy’n euog o drosedd yn agored—

(a)yn achos trosedd a grëir gan baragraff (1) neu (4) neu gan reoliad 4(3), 5, 7(1), 14(1), [F516(4) neu 17B]

(i)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu’r ddau, neu

(ii)o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy; a

(b)yn achos trosedd a grëir gan baragraff (2) neu (3), o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.]

(6Nid oes dim ym mharagraff (2) neu (3) sydd i'w ddehongli fel petai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny'n gallu peri iddo argyhuddo ei hun.