Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 2

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012, Adran 2. Help about Changes to Legislation

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ranbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y rhanbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

F1...

F2...

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae'r term “paratoi” (“preparation”, “prepare”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar driniaeth neu broses, ac mae i'w ddehongli'n unol â hynny;

[F3ystyr “Rheoliad 2018/213” (“Regulation 2018/213”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2018/213 ar y defnydd o bisffenol A mewn farneisiau ac araenau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 10/2011 o ran y defnydd o’r sylwedd hwnnw mewn deunyddiau plastig sy’n dod i gysylltiad â bwyd;]

[F4“ystyr “Rheoliad 10/2011” (“Regulation 10/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd;]

ystyr “Rheoliad 450/2009” (“Regulation 450/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(2);

ystyr “Rheoliad 2023/2006” (“Regulation 2023/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(3);

ystyr “Rheoliad 1895/2005” (“Regulation 1895/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar y cyfyngiad ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(4);

ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Regulation 1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC(5);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson, p'un ai yn swyddog i'r awdurdod o dan sylw ai peidio, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi o dan reoliad 20, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009 [F5, Rheoliad 10/2011 neu Reoliad 2018/213] yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2023/2006 F6...neu i Reoliad 10/2011 yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw F7... fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

(2)

OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3.

(3)

OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75.

(4)

OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28.

(5)

OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

Back to top

Options/Help