20.—(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi—
(a)Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 1895/2005, Rheoliad 450/2009 a Rheoliad 10/2011; a
(b)ac eithrio mewn perthynas â'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), y Rheoliadau hyn.
[F1(2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau—
(a)Erthyglau 16(1) a 17(2) o Reoliad 1935/2004;
(b)Erthygl 13 o Reoliad 450/2009; ac
(c)Erthygl 16(1) o Reoliad 10/2011.]
(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau Rheoliad 2023/2006 a bennwyd yn rheoliad 5 a'r Rheoliadau hyn.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 20(2) wedi ei amnewid (14.9.2017) gan Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/832), rhlau. 1(3), 11
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 20 mewn grym ar 20.11.2012, gweler rhl. 1